I15ATODLEN 8CYRFF ERAILL: SAFONAU
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Person/Categori | Gwasanaeth(au) penodedig |
Personau neilltuedig sy'n gyflenwyr nwy trwyddedig. | Cyflenwi nwy i'r cyhoedd o dan y drwydded nwy berthnasol. |
Personau neilltuedig sydd, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, neu yn rhinwedd amrywio'r penodiad hwnnw o dan adran 7 o'r Ddeddf honno, yn ymgymerwyr dŵr dros Gymru gyfan neu unrhyw ran ohoni. | Gwasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd wrth arfer swyddogaethau ymgymerwr dŵr ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni. |
Personau neilltuedig sydd, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, neu yn rhinwedd amrywio'r penodiad hwnnw o dan adran 7 o'r Ddeddf honno, yn ymgymerwyr carthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni. | Gwasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd wrth arfer swyddogaethau ymgymerwr carthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni. |
Personau neilltuedig sy'n gyflenwyr trydan trwyddedig. | Cyflenwi trydan i'r cyhoedd o dan drwydded drydan berthnasol. |
Personau neilltuedig sy'n darparu swyddfeydd post i'r cyhoedd. | Darparu swyddfeydd post i'r cyhoedd. |
Personau neilltuedig, ac eithrio cyrff di-elw, sy'n darparu gwasanaethau post i'r cyhoedd. | Darparu gwasanaethau post i'r cyhoedd. |
Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau telathrebu i'r cyhoedd. | Darparu gwasanaethau telathrebu i'r cyhoedd. |
Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau bysiau i'r cyhoedd. | Darparu gwasanaethau bysiau i'r cyhoedd. |
Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau rheilffyrdd i deithwyr. | Darparu i'r cyhoedd wasanaethau rheilffyrdd i deithwyr. |
Personau neilltuedig sy'n darparu addysg, hyfforddiant (lle y mae'r darparwr yn derbyn arian cyhoeddus i'w ddarparu), neu gyfarwyddyd gyrfaoedd i'r cyhoedd. | Darparu addysg, hyfforddiant (lle y mae'r darparwr yn derbyn arian cyhoeddus i'w ddarparu), neu gyfarwyddyd gyrfaoedd i'r cyhoedd. |
Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau sy'n annog, yn galluogi neu'n cynorthwyo cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyfarwyddyd gyrfaoedd. | Darparu i'r cyhoedd wasanaethau i annog, i alluogi neu i gynorthwyo cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyfarwyddyd gyrfaoedd. |
Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau datblygu neu ddyfarnu cymwysterau addysgol neu alwedigaethol i'r cyhoedd. | Darparu gwasanaethau datblygu neu ddyfarnu cymwysterau addysgol neu alwedigaethol i'r cyhoedd. |
Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd (“y gwasanaethau cysylltiedig”) sy'n gysylltiedig â gwasanaeth sy'n dod o fewn colofn (2) mewn unrhyw un neu ragor o'r cofnodion blaenorol yn y tabl hwn (y “gwasanaeth sylfaenol”), p'un ai hwy yw'r personau sy'n darparu'r gwasanaeth sylfaenol ai peidio. | Darparu'r gwasanaethau cysylltiedig i'r cyhoedd. |
Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd o dan gytundeb, neu'n unol â threfniadau, a wnaed gyda—
| Darparu gwasanaethau i'r cyhoedd o dan y cytundeb, neu'n unol â'r trefniadau hynny. |
I15Dehongli
I1I15I81
1
Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon ac yn Atodlen 7 (ac eithrio “gwasanaeth cysylltiedig” a “gwasanaeth sylfaenol”) yr un ystyron yn yr Atodlen hon ag yn Atodlen 7.
2
Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr Atodlen hon.
I2I15I92
Mae cyfeiriadau at ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd yn cynnwys y canlynol (ond heb fod wedi eu cyfyngu i hynny)—
a
darparu'r gwasanaeth i'r cyhoedd yn gyffredinol neu i aelodau penodol o'r cyhoedd, a
b
darparu'r gwasanaeth at unrhyw ddiben (boed at ddiben domestig, busnes neu ddiben arall).
I3I10I153I15Nwy
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “cyflenwr nwy trwyddedig” (“licensed gas supplier”) yw deiliad trwydded nwy berthnasol;
ystyr “trwydded nwy berthnasol” (“relevant gas licence”) yw trwydded o dan adran 7A o Ddeddf Nwy 1986.
I4I11I154I15Trydan
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “cyflenwr trydan trwyddedig” (“licensed electricity supplier”) yw deiliad trwydded drydan berthnasol;
ystyr “trwydded drydan berthnasol” (“relevant electricity licence”) yw trwydded o dan adran 6(1)(d) o Ddeddf Trydan 1989.
I5I15I125I15Gwasanaethau post
Yn yr Atodlen hon ystyr “corff di-elw” yw person neu gorff arall—
a
nad yw wedi ei gyfansoddi at ddibenion gwneud elw, neu
b
y mae'n ofynnol iddo (ar ôl iddo dalu alldaliadau) gymhwyso'r cyfan o'i incwm, ac unrhyw gyfalaf y mae'n ei wario, at ddibenion elusennol neu gyhoeddus.
I6I15I136I15Rheilffyrdd
Yn yr Atodlen hon mae'r ymadrodd “gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr” yn cynnwys gwasanaethau i deithwyr a ddarperir ar reilffyrdd trên bach neu reilffyrdd dreftadaeth (ond nid yw wedi ei gyfyngu iddynt).
I7I15I147I15Gwasanaethau cysylltiedig
Yn yr Atodlen hon nid yw'r cyfeiriadau at “wasanaethau cysylltiedig” yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir mewn siopau, onid yw'r gwasanaethau hynny—
a
yn wasanaethau cownteri swyddfa'r post, neu
b
yn wasanaethau gwerthu tocynnau neu ddarparu amserlenni ar gyfer gwasanaethau bysiau neu wasanaethau rheilffyrdd.
Atod. 8 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)