RHAN 2COMISIYNYDD Y GYMRAEG
Swyddogaethau
10Cymorth cyfreithiol: costau
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys—
(a)
os yw'r Comisiynydd wedi cynorthwyo unigolyn o dan adran 9 mewn perthynas ag achos, a
(b)
os bydd yr unigolyn hwnnw'n ennill yr hawl i gael rhywfaint neu'r cyfan o'i gostau yn yr achos (boed yn rhinwedd dyfarniad neu yn rhinwedd cytundeb).
(2)
O ran treuliau'r Comisiynydd wrth ddarparu'r cymorth—
(a)
cânt eu codi ar symiau a delir i'r unigolyn ar ffurf costau, a
(b)
gellir eu gorfodi fel dyled sy'n ddyladwy i'r Comisiynydd.
(3)
Mae gofyniad i dalu arian i'r Comisiynydd o dan is-adran (2) yn dod islaw gofyniad a osodir yn rhinwedd adran 11(4)(f) o Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999 (adennill costau mewn achosion a gyllidir).
(4)
At ddibenion is-adran (2), mae treuliau'r Comisiynydd i'w cyfrifo'n unol â darpariaeth a wneir (os o gwbl) gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw drwy reoliadau.
(5)
Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (4) ddarparu, ymhlith pethau eraill, ar gyfer dyrannu gwariant a dynnir gan y Comisiynydd—
(a)
yn rhannol at un diben ac yn rhannol at ddiben arall, neu
(b)
at ddibenion cyffredinol.