RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 6ADOLYGIAD GAN YR ACHWYNYDD
Adolygu methiant y Comisiynydd i ymchwilio i gŵyn
I2I1105Apelau o'r Tribiwnlys
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Tribiwnlys wedi penderfynu cais o dan adran 103(2).
2
Caiff y Comisiynydd neu P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol sy'n deillio o'r penderfyniad.
3
Os yw'r Uchel Lys yn dyfarnu bod y Tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad ar bwynt cyfreithiol—
a
caiff yr Uchel Lys osod penderfyniad y Tribiwnlys o'r naill du, a
b
os bydd yr Uchel Lys yn gosod y penderfyniad o'r naill du, rhaid iddo naill ai—
i
anfon yr achos yn ôl i'r Tribiwnlys gyda chyfarwyddyd ar gyfer ei ailystyried, neu
ii
ail-wneud y penderfyniad.
4
Mae'r cyfarwyddiadau y caniateir i'r Uchel Lys eu rhoi o dan is-adran (3)(b)(i) yn cynnwys y naill neu'r llall neu'r naill a'r llall o'r canlynol, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt—
a
cyfarwyddyd na all y personau sydd i ailystyried yr achos fod yr un rhai â'r personau a wnaeth y penderfyniad sydd wedi ei roi o'r naill du,
b
cyfarwyddiadau gweithredu mewn cysylltiad ag ailystyried yr achos.
5
Wrth ail-wneud y penderfyniad yn unol ag is-adran (3)(b)(ii), caniateir i'r Uchel Lys—
a
gwneud unrhyw benderfyniad y gallai'r Tribiwnlys ei wneud pe bai'r Tribiwnlys yn gwneud y penderfyniad, a
b
gwneud y canfyddiadau ffeithiol sy'n briodol yn nhyb yr Uchel Lys.
6
Rhaid i gais am ganiatâd i apelio gael ei wneud i'r Tribiwnlys neu i'r Uchel Lys o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysodd y Tribiwnlys y person sy'n gwneud y cais o dan yr adran hon o'i benderfyniad ar y cais o dan adran 103.
7
Ond caiff y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, ar gais ysgrifenedig gan y Comisiynydd neu P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys neu'r Uchel Lys wedi ei fodloni bod rheswm da—
a
dros y methiant i wneud cais am ganiatâd i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a
b
os oes unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud y cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.
8
Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.