RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 8CYFFREDINOL
Dogfen polisi gorfodi
I1I2108Dogfen polisi gorfodi
1
Rhaid i'r Comisiynydd lunio dogfen polisi gorfodi.
2
Caiff y Comisiynydd ddiwygio'r ddogfen polisi gorfodi.
3
Dogfen yw dogfen polisi gorfodi sy'n rhoi cyngor a gwybodaeth ar y ffordd y mae'r Comisiynydd yn bwriadu mynd ati i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd o dan y Rhan hon.
4
Ni chaniateir i'r Comisiynydd lunio neu ddiwygio'r ddogfen polisi gorfodi heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
5
Rhaid i'r Comisiynydd—
a
sicrhau bod copi o'r ddogfen polisi gorfodi ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a
b
sicrhau y perir bod copïau o'r ddogfen polisi gorfodi ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.
6
Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at gopïau o'r ddogfen polisi gorfodi yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant yn y ddogfen.