RHAN 2COMISIYNYDD Y GYMRAEG
Swyddogaethau
I2I111Pwerau
1
Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef mewn cysylltiad ag unrhyw un o'i swyddogaethau.
2
Mae hynny'n cynnwys gwneud unrhyw un neu ragor o'r canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—
a
rhoi grantiau a benthyciadau a rhoi gwarantau;
b
codi ffi am roi cyngor neu am wasanaethau eraill;
c
talu trydydd partïon am roi cyngor neu am wasanaethau eraill;
d
derbyn rhoddion ar ffurf arian neu eiddo arall;
e
caffael neu waredu unrhyw eiddo neu hawl.
3
Mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) i (6).
4
Rhaid i'r Comisiynydd beidio—
a
â rhoi grant neu fenthyciad,
b
â rhoi gwarant, neu
c
â chaffael neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir,
ac eithrio gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
5
Nid yw is-adran (4) yn gymwys i unrhyw beth a wneir o dan adran 9.
6
Mae pŵer y Comisiynydd i godi ffi am roi cyngor neu am wasanaethau yn gyfyngedig i godi'r symiau sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd i adennill y gost wirioneddol neu amcangyfrif o'r gost a dynnir gan y Comisiynydd wrth roi'r cyngor hwnnw neu wrth ddarparu'r gwasanaethau hynny.