xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CRHYDDID I DDEFNYDDIO'R GYMRAEG

116Terfynu ymchwiliadauLL+C

(1)Caiff y Comisiynydd derfynu'r ymchwiliad i'r ymyrraeth honedig ar unrhyw adeg.

(2)Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu terfynu'r ymchwiliad, rhaid iddo—

(a)hysbysu P a D o'r penderfyniad, a

(b)hysbysu P o'r rhesymau dros ddod i'r penderfyniad.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag is-adran (2) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl dod i'r penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 116 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 116 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(k)