RHAN 6RHYDDID I DDEFNYDDIO'R GYMRAEG

I1119Adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru

1

Rhaid i'r Comisiynydd gynnwys, ym mhob adroddiad blynyddol a lunnir yn unol â Rhan 2, adroddiad—

a

ar y ceisiadau perthnasol a wnaed i'r Comisiynydd yn y cyfnod y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef,

b

ar y camau a gymerwyd gan y Comisiynydd mewn ymateb i geisiadau perthnasol a wnaed yn y cyfnod hwnnw, ac

c

ar farn y Comisiynydd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith i warchod rhyddid personau yng Nghymru sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg i gyfathrebu â'i gilydd.

2

Wrth ffurfio barn at ddibenion is-adran (1)(c), mae'r materion y mae'n rhaid i'r Comisiynydd eu hystyried yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt—

a

pob cais perthnasol a wnaed oddi ar y dyddiad y daeth adran 111 i rym, a

b

pob cam a gymerwyd gan y Comisiynydd mewn ymateb i geisiadau perthnasol a wnaed oddi ar y dyddiad y daeth adran 111 i rym.

3

O ran unrhyw gais perthnasol lle y dyfarna'r Comisiynydd nad yw D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg, rhaid i'r materion a gynhwysir mewn adroddiad blynyddol yn unol â'r adran hon beidio â'i gwneud yn hysbys pwy yw D.

4

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth am adroddiadau o dan yr adran hon.

5

Yn yr adran hon ystyr “cais perthnasol” yw cais a wneir o dan adran 111.