Valid from 07/01/2014
124Cyfarwyddiadau ymarferLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Caiff y Llywydd roi cyfarwyddiadau ynghylch ymarferiad a threfniadaeth y Tribiwnlys.
(2)Ond ni chaiff y Llywydd roi cyfarwyddiadau ymarfer onid ydynt wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys i gyfarwyddiadau ymarfer i'r graddau y mae'r cyfarwyddiadau hynny'n ymwneud â—
(a)cymhwyso neu ddehongli'r gyfraith, neu
(b)gwneud penderfyniadau gan aelodau o'r Tribiwnlys.
(4)Mae'r pŵer o dan yr adran hon i roi cyfarwyddiadau ymarfer yn cynnwys—
(a)pŵer i amrywio neu ddirymu cyfarwyddiadau ymarfer a roddir wrth arfer y pŵer, a
(b)pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 124 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)