xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7LL+CTRIBIWNLYS Y GYMRAEG

Ymarferiad a threfniadaeth etcLL+C

126Pwerau atodolLL+C

(1)Mewn perthynas â'r materion a grybwyllir yn is-adran (2), mae gan y Tribiwnlys yr un pwerau, hawliau, breintiau ac awdurdod â'r Uchel Lys.

(2)Dyma'r materion—

(a)presenoldeb tystion a'u holi,

(b)cyflwyno ac archwilio dogfennau, ac

(c)pob mater arall sy'n gysylltiedig â swyddogaethau'r Tribiwnlys.

(3)Nid yw is-adran (1)—

(a)yn cyfyngu ar unrhyw bŵer i wneud Rheoliadau'r Tribiwnlys, neu

(b)wedi ei chyfyngu gan unrhyw beth yn Rheoliadau'r Tribiwnlys, ac eithrio cyfyngiad penodol.

(4)Caiff y Tribiwnlys gyfarwyddo bod parti neu dyst i'w holi ar lw neu gadarnhad.

(5)Caiff y Tribiwnlys weinyddu unrhyw lw, neu gymryd unrhyw gadarnhad, sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 126 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 126 mewn grym ar 30.4.2015 gan O.S. 2015/1217, ergl. 2