RHAN 7TRIBIWNLYS Y GYMRAEG
Staff ac adnoddau eraill
I1I2127Staff, adeiladau ac adnoddau eraill y Tribiwnlys
1
Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod gan y Tribiwnlys y canlynol—
a
staff,
b
adeiladau, ac
c
adnoddau ariannol ac adnoddau eraill,
sy'n briodol i'r Tribiwnlys er mwyn iddo arfer ei swyddogaethau.
2
Gweinidogion Cymru sydd i benderfynu pa staff, adeiladau, adnoddau ariannol ac adnoddau eraill sy'n briodol at y diben hwnnw.
3
Caniateir i Weinidogion Cymru fodloni'r ddyletswydd o dan is-adran (1)—
a
drwy ddarparu staff, adeiladau neu adnoddau eraill, neu
b
drwy wneud trefniadau gydag unrhyw berson arall ar gyfer darparu staff, adeiladau neu adnoddau eraill.
4
Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i staff y Tribiwnlys.
5
Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i staff y Tribiwnlys.
6
Caiff Gweinidogion Cymru dalu—
a
pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau o staff y Tribiwnlys, neu mewn perthynas â hwy, a
b
symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau sydd wedi bod yn aelodau o staff y Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy.