RHAN 2COMISIYNYDD Y GYMRAEG
Swyddogaethau
13Arfer swyddogaethau'r Comisiynydd gan staff
(1)
Caiff y Comisiynydd ddirprwyo unrhyw un neu ragor neu'r oll o swyddogaethau'r Comisiynydd i aelod o staff y Comisiynydd.
(2)
Mae swyddogaethau'r Comisiynydd yn arferadwy gan y Dirprwy Gomisiynydd—
(a)
os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu
(b)
os yw'n ymddangos i Brif Weinidog Cymru nad yw'r Comisiynydd am unrhyw reswm yn gallu arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.
(3)
Os oes un o swyddogaethau'r Comisiynydd yn arferadwy gan aelod o staff y Comisiynydd yn unol ag is-adran (1) neu (2) caiff yr aelod staff, wrth arfer y swyddogaeth, ddelio ag unrhyw eiddo neu hawliau sydd wedi eu breinio yn y Comisiynydd fel pe byddent wedi eu breinio yn yr aelod staff.