(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—
(a)pennu pa fuddiannau sy'n fuddiannau cofrestradwy at ddibenion y Bennod hon, a
(b)gwneud darpariaeth arall at ddibenion y Bennod hon.
(2)Caiff buddiannau cofrestradwy gynnwys, ymhlith pethau eraill, buddiannau personau y mae cysylltiad rhyngddynt a deiliaid swyddi perthnasol (boed yn gysylltiad teuluol, ariannol neu o unrhyw fath arall).
(3)Yn yr adran hon ystyr “buddiant” yw buddiant o unrhyw fath (gan gynnwys buddiannau ariannol, a phob gweithgaredd a swydd, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 138 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 138 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(b)
I3A. 138 mewn grym ar 1.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/969, ergl. 2(a)