RHAN 8CYFFREDINOL
PENNOD 2DIFENWI
I2140Braint absoliwt
1
At ddibenion cyfraith difenwi, mae'r canlynol yn absoliwt freintiedig—
I3a
cyhoeddi mater gan y Comisiynydd wrth iddo arfer unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau;
I3b
cyhoeddi mater gan aelod o'r Panel Cynghori wrth iddo arfer unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau;
c
cyhoeddi mater gan berson wrth iddo gydymffurfio â gofyniad mewn hysbysiad penderfynu;
I1d
cyhoeddi, mewn cyfathrebiad rhwng—
i
y Comisiynydd, a
ii
person a ddiogelir,
fater mewn cysylltiad ag ymholiad neu ymchwiliad;
I1e
cyhoeddi, mewn cyfathrebiad rhwng—
i
yr achwynydd neu berson sy'n gweithredu ar ran yr achwynydd, a
ii
cynrychiolydd,
fater mewn cysylltiad ag ymchwiliad o dan Ran 5 neu Ran 6.
I32
Yn yr adran hon mae cyfeiriad at y Comisiynydd yn cynnwys y personau canlynol—
a
aelodau o staff y Comisiynydd;
b
unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran y Comisiynydd neu'n cynorthwyo i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.