(1)Diddymir Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
(2)Trosglwyddir y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan adran 3 o Ddeddf 1993 i'r Comisiynydd.
(3)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan adran 154 sy'n darparu i'r swyddogaethau hynny gael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru (boed yn lle trosglwyddo'r swyddogaethau i'r Comisiynydd neu'n ychwanegol at wneud hynny).
(4)Trosglwyddir y swyddogaethau a roddwyd i'r Bwrdd gan Ran 2 o Ddeddf 1993 i'r Comisiynydd.
(5)Diddymir darpariaethau canlynol Deddf 1993—
(a)adran 1;
(b)adran 2;
(c)adran 4(2);
(d)adran 34(2);
(e)Atodlen 1.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 143 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 143 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(p)