RHAN 9BYRDD IAITH GYMRAEG, CYNLLUNIAU IAITH GYMRAEG ETC
147Atodol
1
Caiff Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan Rannau eraill o'r Mesur hwn at ddibenion dwyn i rym unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn sy'n ymwneud â'r Comisiynydd er mwyn galluogi swyddogaethau'r Bwrdd i gael eu trosglwyddo i'r Comisiynydd a bod yn arferadwy ganddo cyn bod unrhyw swyddogaeth newydd yn arferadwy gan y Comisiynydd (p'un a ddaw unrhyw swyddogaeth newydd yn arferadwy ar ôl hynny ai peidio tra bydd unrhyw swyddogaeth a drosglwyddwyd yn parhau i fod yn arferadwy).
2
At y diben hwnnw ystyr “swyddogaeth newydd” yw swyddogaeth a roddir i'r Comisiynydd gan ddarpariaeth mewn unrhyw Ran arall o'r Mesur hwn.
3
Nid yw'r Rhan hon yn cyfyngu ar bwerau Gweinidogion Cymru o dan Rannau eraill o'r Mesur hwn (ac yn unol â hynny ceir defnyddio'r pwerau hynny i wneud darpariaeth yn ychwanegol at ddarpariaeth neu yn lle darpariaeth yn y Rhan hon).
4
Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at bwerau Gweinidogion Cymru o dan Rannau eraill o'r Mesur hwn yn cynnwys eu pwerau o dan—
a
adran 154 (darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc), a
b
adran 156(2) (cychwyn),
ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.
5
Yn y Rhan hon—
ystyr “y Bwrdd” (“Board”) yw Bwrdd yr Iaith Gymraeg;
ystyr “Deddf 1993” (“1993 Act”) yw Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.