19Adroddiadau blynyddol: atodolLL+C
(1)Wrth baratoi pob adroddiad blynyddol, caiff y Comisiynydd ymgynghori—
(a)â'r Panel Cynghori, a
(b)ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb y Comisiynydd.
(2)Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad blynyddol yn Gymraeg ac yn Saesneg.
(3)Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol sy'n dilyn y flwyddyn ariannol y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi.
(4)Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi pob adroddiad blynyddol, rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)archwilio pob adroddiad blynyddol a gyflwynir iddynt, a
(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 19 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 19 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(h)