RHAN 2COMISIYNYDD Y GYMRAEG
Gweithio gydag ombwdsmyn eraill, comisiynwyr eraill etc
I1I220Gweithio ar y cyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw'n ymddangos i'r Comisiynydd y gallai pwnc ymchwiliad penodol i orfodi safonau (“ymchwiliad y Comisiynydd”) hefyd fod yn destun ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
2
Os yw'r Comisiynydd o'r farn fod hynny'n briodol, rhaid iddo—
a
hysbysu'r Ombwdsmon ynglŷn ag ymchwiliad y Comisiynydd (gan gynnwys cynigion y Comisiynydd ar gyfer ymgymryd â'r ymchwiliad), a
b
ymgynghori â'r Ombwdsmon mewn perthynas ag ymchwiliad y Comisiynydd.
3
Os yw'r Comisiynydd yn ymgynghori â'r Ombwdsmon mewn perthynas ag ymchwiliad y Comisiynydd, caiff y Comisiynydd a'r Ombwdsmon wneud unrhyw un neu ragor neu'r oll o'r canlynol—
a
cydweithredu â'i gilydd mewn perthynas â'r ymchwiliad;
b
cynnal ymchwiliad ar y cyd;
c
paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â'r ymchwiliad.
4
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn—
a
darparu i'r adran hon fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson arall fel y mae'n gymwys mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a
b
gwneud darpariaeth arall sy'n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â, at ddibenion, neu o ganlyniad i ddarpariaeth a wneir o dan baragraff (a).
5
Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (4) yn cynnwys y canlynol, ond nid yw wedi ei chyfyngu i hynny—
a
darpariaeth yn galluogi'r person arall i weithio, neu'n ei gwneud yn ofynnol i'r person arall weithio, ar y cyd â'r Comisiynydd; a
b
diwygiadau i unrhyw ddeddfiad.
6
Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Gweinidogion Cymru.
7
Yn yr adran hon—
mae “ymchwiliad” (“investigation”), mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys archwiliad ac ymholiad, ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli'n unol â hynny;
ystyr “ymchwiliad i orfodi safonau” (“standards enforcement investigation”) yw ymchwiliad y mae gan y Comisiynydd yr hawl i ymgymryd ag ef, neu ymchwiliad y mae'n ymgymryd ag ef, o dan adran 71.