20Gweithio ar y cyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'n ymddangos i'r Comisiynydd y gallai pwnc ymchwiliad penodol i orfodi safonau (“ymchwiliad y Comisiynydd”) hefyd fod yn destun ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
(2)Os yw'r Comisiynydd o'r farn fod hynny'n briodol, rhaid iddo—
(a)hysbysu'r Ombwdsmon ynglŷn ag ymchwiliad y Comisiynydd (gan gynnwys cynigion y Comisiynydd ar gyfer ymgymryd â'r ymchwiliad), a
(b)ymgynghori â'r Ombwdsmon mewn perthynas ag ymchwiliad y Comisiynydd.
(3)Os yw'r Comisiynydd yn ymgynghori â'r Ombwdsmon mewn perthynas ag ymchwiliad y Comisiynydd, caiff y Comisiynydd a'r Ombwdsmon wneud unrhyw un neu ragor neu'r oll o'r canlynol—
(a)cydweithredu â'i gilydd mewn perthynas â'r ymchwiliad;
(b)cynnal ymchwiliad ar y cyd;
(c)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â'r ymchwiliad.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn—
(a)darparu i'r adran hon fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson arall fel y mae'n gymwys mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a
(b)gwneud darpariaeth arall sy'n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â, at ddibenion, neu o ganlyniad i ddarpariaeth a wneir o dan baragraff (a).
(5)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (4) yn cynnwys y canlynol, ond nid yw wedi ei chyfyngu i hynny—
(a)darpariaeth yn galluogi'r person arall i weithio, neu'n ei gwneud yn ofynnol i'r person arall weithio, ar y cyd â'r Comisiynydd; a
(b)diwygiadau i unrhyw ddeddfiad.
(6)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Gweinidogion Cymru.
(7)Yn yr adran hon—
mae “ymchwiliad” (“investigation”), mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys archwiliad ac ymholiad, ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli'n unol â hynny;
ystyr “ymchwiliad i orfodi safonau” (“standards enforcement investigation”) yw ymchwiliad y mae gan y Comisiynydd yr hawl i ymgymryd ag ef, neu ymchwiliad y mae'n ymgymryd ag ef, o dan adran 71.