RHAN 2COMISIYNYDD Y GYMRAEG

Dyletswydd gyffredinol

I1I23Prif nod y Comisiynydd

1

Prif nod y Comisiynydd wrth arfer ei swyddogaethau yw hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg.

2

Mae'r camau y mae'n rhaid i'r Comisiynydd eu cymryd wrth arfer swyddogaethau yn unol ag is-adran (1) yn cynnwys gweithio tuag at gynyddu'r canlynol (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt)—

a

defnyddio'r Gymraeg yng nghyswllt darparu gwasanaethau, a

b

cyfleoedd eraill i bersonau ddefnyddio'r Gymraeg.

3

Wrth arfer swyddogaethau'n unol ag is-adran (1), rhaid i'r Comisiynydd roi sylw—

a

i statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru,

b

i'r dyletswyddau i ddefnyddio'r Gymraeg sydd wedi eu gosod (neu a all gael eu gosod) drwy gyfraith, a'r hawliau sy'n deillio o allu gorfodi'r dyletswyddau hynny,

c

i'r egwyddor na ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru, a

d

i'r egwyddor y dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.