3Prif nod y ComisiynyddLL+C
(1)Prif nod y Comisiynydd wrth arfer ei swyddogaethau yw hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg.
(2)Mae'r camau y mae'n rhaid i'r Comisiynydd eu cymryd wrth arfer swyddogaethau yn unol ag is-adran (1) yn cynnwys gweithio tuag at gynyddu'r canlynol (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt)—
(a)defnyddio'r Gymraeg yng nghyswllt darparu gwasanaethau, a
(b)cyfleoedd eraill i bersonau ddefnyddio'r Gymraeg.
(3)Wrth arfer swyddogaethau'n unol ag is-adran (1), rhaid i'r Comisiynydd roi sylw—
(a)i statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru,
(b)i'r dyletswyddau i ddefnyddio'r Gymraeg sydd wedi eu gosod (neu a all gael eu gosod) drwy gyfraith, a'r hawliau sy'n deillio o allu gorfodi'r dyletswyddau hynny,
(c)i'r egwyddor na ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru, a
(d)i'r egwyddor y dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 3 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 3 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(c)