xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Yn y Mesur hwn ystyr “safon cadw cofnodion” yw safon sy'n ymwneud â chadw—
(a)cofnodion sy'n ymwneud â safonau penodedig eraill, a
(b)cofnodion sy'n ymwneud—
(i)â chwynion am gydymffurfedd person â safonau penodedig eraill, neu
(ii)â chwynion eraill sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
(2)Yn yr adran hon ystyr “safon benodedig” yw safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 32 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 32 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)