(1)Mae safon a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1) yn benodol gymwys i berson (P) os yw Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, yn awdurdodi'r Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i P sy'n ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â'r safon.
(2)Caiff y rheoliadau ddarparu i safon fod yn benodol gymwys i P drwy wneud darpariaeth sy'n cyfeirio—
(a)at P yn benodol, neu
(b)at grŵp o bersonau y mae P yn dod oddi mewn iddo.
(3)Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 39 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 39 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)