RHAN 2COMISIYNYDD Y GYMRAEG
Swyddogaethau
I1I24Hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
1
Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef—
a
er mwyn hybu defnyddio'r Gymraeg,
b
er mwyn hwyluso defnyddio'r Gymraeg, neu
c
er mwyn gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
2
Mae hynny'n cynnwys gwneud unrhyw un neu ragor o'r pethau canlynol, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny—
a
hybu darparu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg;
b
annog arferion gorau o ran defnyddio'r Gymraeg gan bersonau sy'n delio â phersonau eraill, neu sy'n darparu gwasanaethau i bersonau eraill;
c
cadw digonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith sy'n ymwneud â'r Gymraeg o dan arolygiaeth;
d
llunio a chyhoeddi adroddiadau;
e
gwneud gwaith ymchwil neu gomisiynu eraill i'w wneud;
f
gwneud gweithgareddau addysgol neu gomisiynu eraill i'w gwneud;
g
rhoi cymorth (gan gynnwys cymorth ariannol) i unrhyw berson;
h
gwneud argymhellion ysgrifenedig i Weinidogion Cymru;
i
cyflwyno sylwadau i unrhyw berson;
j
rhoi cyngor i unrhyw berson.
3
Os yw'r Comisiynydd yn gwneud argymhelliad ysgrifenedig neu'n cyflwyno sylw ysgrifenedig, neu'n rhoi cyngor ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i'r argymhelliad, y sylw neu i'r cyngor wrth arfer unrhyw swyddogaeth y mae'n ymwneud â hi.
4
Mae pŵer y Comisiynydd o dan is-adran (2)(g) i roi cymorth ariannol yn ddarostyngedig i adran 11(4).
5
Caniateir arfer pwerau'r Comisiynydd o dan is-adran (2)(h) i (j) i wneud argymhellion neu gyflwyno sylwadau neu i roi cyngor i berson (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) p'un a wnaeth y person hwnnw gais i'r Comisiynydd arfer y pwerau ai peidio.
6
Caiff y Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth a roddir gan yr adran hon.