Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

43Cyfyngiad ar y pŵer i wneud safonau'n benodol gymwysLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu bod safon—

(a)yn benodol gymwys i berson, oni bai bod y safon yn gymwysadwy i'r person hwnnw, neu

(b)yn benodol gymwys i grŵp o bersonau oni bai bod y safon yn gymwysadwy i bob person yn y grŵp hwnnw.

(2)Ni chaiff rheoliadau o dan adran 39 ddarparu i safon fod yn benodol gymwys i unrhyw un o Weinidogion y Goron oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth honno.

(3)Mewn achos—

(a)pan fo safon yn benodol gymwys i unrhyw un o Weinidogion y Goron, a

(b)pan fo'r safon yn cael ei haddasu gan ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan adran 26,

nid yw'r safon fel y mae wedi ei haddasu yn benodol gymwys i Weinidogion y Goron oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth honno yn y rheoliadau hynny.

(4)Yn yr adran hon, mae i'r ymadrodd “Gweinidogion y Goron” yr un ystyr ag sydd iddo yn Atodlen 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 43 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 43 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)