RHAN 4SAFONAU
PENNOD 6HYSBYSIADAU CYDYMFFURFIO
Hysbysiadau cydymffurfio
I144Hysbysiadau cydymffurfio
1
Yn y Mesur hwn ystyr “hysbysiad cydymffurfio” yw hysbysiad a roddir i berson (P) gan y Comisiynydd—
a
sy'n nodi, neu'n cyfeirio at, un neu ragor o safonau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1), a
b
sy'n ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio â'r safon neu â'r safonau a nodir neu y cyfeirir ati neu atynt.
2
Caiff hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio â safon benodol—
a
mewn rhai amgylchiadau, ond nid mewn amgylchiadau eraill;
b
mewn rhyw ardal neu rai ardaloedd, ond nid mewn ardaloedd eraill.
3
Os yw rheoliadau o dan adran 39 yn darparu bod dwy neu ragor o safonau a bennir mewn perthynas ag ymddygiad penodol yn benodol gymwys i berson penodol, caiff hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio—
a
ag un o'r safonau'n unig, neu
b
â gwahanol safonau—
i
ar adegau gwahanol;
ii
mewn amgylchiadau gwahanol (boed ar yr un adeg neu ar adegau gwahanol);
iii
mewn ardaloedd gwahanol (boed ar yr un adeg neu ar adegau gwahanol).