RHAN 4SAFONAU
PENNOD 6HYSBYSIADAU CYDYMFFURFIO
Rhoi hysbysiadau cydymffurfio
I1I245Rhoi hysbysiadau cydymffurfio i unrhyw berson
1
Dim ond os yw person (P) yn agored i orfod cydymffurfio â safonau (gweler Pennod 3) y caiff y Comisiynydd roi hysbysiad cydymffurfio i P.
2
Dim ond os yw safon benodol a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1)—
a
yn gymwysadwy i P (gweler Pennod 4), a
b
yn benodol gymwys i P (gweler Pennod 5),
y caiff hysbysiad cydymffurfio a roddir i P nodi, neu gyfeirio at, safon benodol.
3
Os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad cydymffurfio i P, rhaid i'r Comisiynydd hefyd—
a
rhoi copi o unrhyw god ymarfer perthnasol a ddyroddir o dan adran 68 i P, a
b
rhoi gwybod i P am yr hawl i herio o dan Bennod 7.
4
Am ddarpariaeth ynglŷn â rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr, gweler adran 48.