(1)Dim ond os yw person (P) yn agored i orfod cydymffurfio â safonau (gweler Pennod 3) y caiff y Comisiynydd roi hysbysiad cydymffurfio i P.
(2)Dim ond os yw safon benodol a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 26(1)—
(a)yn gymwysadwy i P (gweler Pennod 4), a
(b)yn benodol gymwys i P (gweler Pennod 5),
y caiff hysbysiad cydymffurfio a roddir i P nodi, neu gyfeirio at, safon benodol.
(3)Os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad cydymffurfio i P, rhaid i'r Comisiynydd hefyd—
(a)rhoi copi o unrhyw god ymarfer perthnasol a ddyroddir o dan adran 68 i P, a
(b)rhoi gwybod i P am yr hawl i herio o dan Bennod 7.
(4)Am ddarpariaeth ynglŷn â rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr, gweler adran 48.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 45 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 45 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)