xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Cyn rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r person.
(2)Ond nid yw is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ymgynghori â pherson ar unrhyw fater os yw'r Comisiynydd wedi ei fodloni bod y person hwnnw eisoes wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y mater hwnnw, neu wedi cael cyfle i wneud hynny, mewn cysylltiad ag ymchwiliad safonau (gweler Pennod 8).
(3)Nid yw methiant y person i gymryd rhan mewn ymgynghoriad yn atal y Comisiynydd rhag rhoi hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 47 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 47 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)