RHAN 4SAFONAU
PENNOD 6HYSBYSIADAU CYDYMFFURFIO
Rhoi hysbysiadau cydymffurfio
48Rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys (ynghyd ag adrannau 45 a 46) mewn perthynas â pherson neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd (y “gwasanaethau perthnasol”) o dan gytundeb, neu'n unol â threfniadau, a wneir gydag awdurdod cyhoeddus (y “contract perthnasol”).
(2)
Dim ond—
(a)
os yw'n ofynnol i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon berthnasol wrth ddarparu'r gwasanaethau perthnasol i'r cyhoedd (neu y byddai wedi bod yn ofynnol i'r awdurdod cyhoeddus wneud hynny pe bai'n darparu'r gwasanaethau hynny i'r cyhoedd),
(b)
os gwnaed y contract perthnasol ar neu ar ôl diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus, ac
(c)
os yw diwrnod gosod y person neilltuedig yn dod ar neu ar ôl diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus,
y caiff hysbysiad cydymffurfio a roddir i'r person neilltuedig nodi, neu gyfeirio at, safon benodol (y “safon berthnasol”) mewn perthynas â darparu'r gwasanaethau perthnasol o dan y contract perthnasol.
(3)
Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y gofyniad am i'r person neilltuedig gydymffurfio â'r safon berthnasol (sy'n codi yn rhinwedd bod hysbysiad cydymffurfio yn cael ei roi yn unol ag is-adran (2)) yr un fath â'r gofyniad, neu heb fod yn fwy na'r gofyniad, am i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon.
(4)
Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn yr adran hon ac yn Atodlen 8 yr un ystyr yn yr adran hon ag yn Atodlen 8.
(5)
Yn yr adran hon—
ystyr “diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus” (“public authority’s imposition day”) yw'r diwrnod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau, y mae'n ofynnol i awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon berthnasol;
ystyr “diwrnod gosod y person neilltuedig” (“qualifying person’s imposition day”) yw'r diwrnod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau, a nodir yn yr hysbysiad cydymffurfio a roddir i'r person neilltuedig yn ddiwrnod y mae i fod yn ofynnol i'r person neilltuedig gydymffurfio â'r safon berthnasol mewn perthynas â darparu'r gwasanaethau perthnasol o dan y contract perthnasol.