Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Valid from 07/07/2015

49Amrywio hysbysiadau cydymffurfioLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff y Comisiynydd amrywio unrhyw hysbysiad cydymffurfio.

(2)Mae adrannau 45 i 47 yn gymwys o ran amrywio hysbysiad cydymffurfio yn yr un modd ag y maent yn gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio, ond dim ond i'r graddau y mae'r hysbysiad wedi ei amrywio.

(3)Mae adran 48 yn gymwys o ran amrywio hysbysiad cydymffurfio yn yr un modd ag y mae'n gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 49 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)