RHAN 2COMISIYNYDD Y GYMRAEG
Swyddogaethau
I2I15Cynhyrchu adroddiadau 5-mlynedd
1
Rhaid i'r Comisiynydd, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, lunio adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa'r Gymraeg yn y cyfnod hwnnw.
2
Yn y Mesur hwn, cyfeirir at adroddiad o'r fath fel “adroddiad 5-mlynedd”.
3
Os yr adroddiad cyntaf o'i fath i gael ei lunio ar ôl cyfrifiad yw adroddiad 5-mlynedd, rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—
a
adroddiad ar ganlyniadau'r cyfrifiad i'r graddau y maent yn ymwneud â'r Gymraeg;
b
asesiad o oblygiadau'r canlyniadau hynny i sefyllfa'r Gymraeg.
4
Nid yw is-adran (3) yn cyfyngu ar y materion y caiff y Comisiynydd eu cynnwys mewn unrhyw adroddiad 5-mlynedd.
5
Yn yr adran hon—
ystyr “cyfnod adrodd” (“reporting period”) yw—
- a
y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw adran 2 i rym ac sy'n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2015; a
- b
pob cyfnod olynol o 5 mlynedd;
- a
ystyr “cyfrifiad” (“census”) yw cyfrifiad a wnaed o dan Ddeddf Cyfrifiad 1920 yng Nghymru (p'un a wnaed y cyfrifiad hefyd mewn man heblaw Cymru ai peidio).