Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

5Cynhyrchu adroddiadau 5-mlyneddLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i'r Comisiynydd, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, lunio adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa'r Gymraeg yn y cyfnod hwnnw.

(2)Yn y Mesur hwn, cyfeirir at adroddiad o'r fath fel “adroddiad 5-mlynedd”.

(3)Os yr adroddiad cyntaf o'i fath i gael ei lunio ar ôl cyfrifiad yw adroddiad 5-mlynedd, rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—

(a)adroddiad ar ganlyniadau'r cyfrifiad i'r graddau y maent yn ymwneud â'r Gymraeg;

(b)asesiad o oblygiadau'r canlyniadau hynny i sefyllfa'r Gymraeg.

(4)Nid yw is-adran (3) yn cyfyngu ar y materion y caiff y Comisiynydd eu cynnwys mewn unrhyw adroddiad 5-mlynedd.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cyfnod adrodd” (“reporting period”) yw—

    (a)

    y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw adran 2 i rym ac sy'n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2015; a

    (b)

    pob cyfnod olynol o 5 mlynedd;

  • ystyr “cyfrifiad” (“census”) yw cyfrifiad a wnaed o dan Ddeddf Cyfrifiad 1920 yng Nghymru (p'un a wnaed y cyfrifiad hefyd mewn man heblaw Cymru ai peidio).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 5 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 5 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(c)