Search Legislation

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 55

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, Adran 55. Help about Changes to Legislation

55Herio dyletswyddau presennolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw'r Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson (P), a

(b)os yw'r hysbysiad eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i P—

(i)cydymffurfio â safon, neu

(ii)cydymffurfio â safon mewn modd penodol.

(2)Caiff P wneud cais i'r Comisiynydd yn gofyn i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â'r safon honno, neu gydymffurfio â'r safon yn y modd hwnnw, yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.

(3)Ond caiff y Comisiynydd wrthod derbyn cais o dan yr adran hon os yw wedi ei fodloni nad oes unrhyw newid sylweddol wedi bod yn amgylchiadau P—

(a)oddi ar y diwrnod y'i gwnaed yn ofynnol am y tro cyntaf i P gydymffurfio â'r safon, neu i P gydymffurfio â'r safon yn y modd hwnnw, neu

(b)os yw'r Comisiynydd wedi dyfarnu'r cwestiwn perthnasol ar gais blaenorol o dan yr adran hon, ers i'r Comisiynydd ddyfarnu'r cwestiwn perthnasol ar y cais hwnnw.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “cwestiwn perthnasol” yw'r cwestiwn y mae cais o dan yr adran hon yn ymwneud ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 55 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 55 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)

Back to top

Options/Help