RHAN 4SAFONAU
PENNOD 7YR HAWL I HERIO
58Yr hawl i apelio
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn hysbysu P o dan adran 57 o ddyfarniad nad yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â safon, neu gydymffurfio â'r safon mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.
(2)
Caiff P apelio i'r Tribiwnlys yn gofyn i'r Tribiwnlys ddyfarnu a yw'r gofyniad yn afresymol neu'n anghymesur ai peidio.
(3)
Rhaid i apêl o dan yr adran hon gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbyswyd P gan y Comisiynydd o dan adran 57.
(4)
Ond caiff y Tribiwnlys, ar gais ysgrifenedig gan P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da—
(a)
dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a
(b)
os oedd unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.
(5)
Rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu P a'r Comisiynydd o'i ddyfarniad ar apêl a wneir o dan yr adran hon.
(6)
Os yw'r Tribiwnlys yn dyfarnu bod y gofyniad yn afresymol neu'n anghymesur, bydd is-adrannau (6) a (7) o adran 57 yn gymwys fel pe bai'r Comisiynydd wedi gwneud y dyfarniad hwnnw.
(7)
Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys (sy'n cael gwneud, ymysg pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y modd y ceir dwyn apelau o dan yr adran hon).