(1)Wrth baratoi pob adroddiad 5-mlynedd—
(a)rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori, a
(b)caiff y Comisiynydd ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn ei dyb ef.
(2)Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd yn Gymraeg ac yn Saesneg.
(3)Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cyfnod y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef ddod i ben.
(4)Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd, rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)archwilio pob adroddiad 5-mlynedd a gyflwynir iddynt, a
(b)gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 6 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 6 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(c)