65Cyfarwyddyd i gynnal ymchwiliad safonauLL+C
(1)Mae'r adran hon yn gymwys os bydd Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan adran 16 i roi cyfarwyddyd i'r Comisiynydd er mwyn ei gyfarwyddo i gynnal ymchwiliad safonau mewn cysylltiad â pherson neu grŵp o bersonau.
(2)Rhaid i'r cyfarwyddyd bennu'r materion a ganlyn—
(a)y person, neu'r grŵp o bersonau y mae'r ymchwiliad i'w gynnal mewn cysylltiad ag ef;
(b)pwnc yr ymchwiliad;
(c)y rhesymau pam y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y dylai'r Comisiynydd gynnal yr ymchwiliad safonau;
(d)y cyfnod (y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na chwe mis) y mae'n rhaid i'r Comisiynydd gynnal yr ymchwiliad safonau cyn iddo ddod i ben.
(3)Nid yw is-adran (2) yn atal y cyfarwyddyd rhag pennu materion eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 65 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 65 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(ii)