RHAN 4SAFONAU
PENNOD 8YMCHWILIADAU AC ADRODDIADAU SAFONAU
Sylw sydd i'w roi i adroddiad safonau
I1I266Gweinidogion Cymru i roi sylw dyladwy i adroddiad
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd wedi cynnal ymchwiliad safonau ac wedi llunio adroddiad safonau (boed o dan gyfarwyddyd neu ar gais Gweinidogion Cymru).
2
Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i'r adroddiad safonau wrth benderfynu ai i arfer ai peidio y pwerau sydd wedi eu rhoi iddynt gan y Rhan hon, a sut i wneud hynny.