Valid from 07/07/2015
73Dyfarnu ar ymchwiliadLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae'r adran hon yn gymwys—
(a)os yw'r Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad o dan adran 71, a
(b)os nad yw'r Comisiynydd yn terfynu'r ymchwiliad.
(2)Rhaid i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol ai peidio.
(3)Rhaid i'r Comisiynydd—
(a)llunio adroddiad ar yr ymchwiliad, a
(b)rhoi copi o'r adroddiad ar yr ymchwiliad i bob person a chanddo fuddiant.
(4)Rhaid i'r Comisiynydd—
(a)rhoi hysbysiad penderfynu i D, a
(b)rhoi copi o'r hysbysiad penderfynu i bob person arall a chanddo fuddiant.
(5)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 73 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)