RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 1YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC
Methiant i gydymffurfio: opsiynau'r Comisiynydd
I1I277Methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol.
2
Caiff y Comisiynydd—
a
beidio â gweithredu ymhellach,
b
gweithredu o dan is-adran (3), neu
c
gweithredu o dan is-adran (4).
3
Caiff y Comisiynydd wneud un neu ragor o'r pethau a ganlyn—
a
ei gwneud yn ofynnol i D baratoi cynllun gweithredu at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd;
b
ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd;
c
rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol;
d
ei gwneud yn ofynnol i D roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol;
e
gosod cosb sifil ar D.
4
Caiff y Comisiynydd wneud un neu ragor o'r pethau a ganlyn—
a
rhoi argymhellion i D neu i unrhyw berson arall;
b
rhoi cyngor i D neu i unrhyw berson arall;
c
ceisio ymrwymo mewn cytundeb setlo gyda D (gweler Pennod 2), ond dim ond os dyletswydd i gydymffurfio â safon yw'r gofyniad perthnasol.
5
Os yw'r Comisiynydd yn ceisio ymrwymo mewn cytundeb setlo gyda D—
a
nid oes gorfodaeth ar D i ymrwymo yn y cytundeb hwnnw;
b
os yw D yn gwrthod ymrwymo mewn cytundeb setlo, caiff y Comisiynydd arfer ei bwerau o dan yr adran hon mewn modd gwahanol, ond nid oes angen iddo wneud hynny.
6
Os yw'r Comisiynydd yn gweithredu o dan is-adran (3), nid yw is-adrannau (2) a (3) yn atal y Comisiynydd rhag gwneud hefyd y naill neu'r llall neu'r naill a'r llall o'r canlynol—
a
rhoi argymhellion i D neu i unrhyw berson arall;
b
rhoi cyngor i D neu i unrhyw berson arall.
7
Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.