(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd—
(a)yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol, ond
(b)yn penderfynu—
(i)peidio â gweithredu ymhellach, neu
(ii)gweithredu o dan adran 77(4).
(2)Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol roi rhesymau'r Comisiynydd dros benderfynu—
(a)peidio â gweithredu ymhellach, neu
(b)gweithredu o dan adran 77(4) ac nid o dan adran 77(3).
(3)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.
(4)Yn yr adran hon, ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 78 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 78 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(c)