RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 1YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC
Atal methiant D i gydymffurfio rhag parhau neu gael ei ailadrodd
79Gofyniad i baratoi cynllun gweithredu neu i gymryd camau
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd—
a
yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol, a
b
yn penderfynu ei gwneud yn ofynnol i D wneud un o'r pethau a ganlyn neu'r ddau ohonynt—
i
paratoi cynllun gweithredu at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd;
ii
cymryd camau at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd.
2
Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol ddatgan yr hyn y mae'r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol i D ei wneud.
3
Os yw'r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol i D baratoi cynllun gweithredu, rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol bennu o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid i D—
a
llunio cynllun drafft cyntaf, a
b
rhoi'r drafft hwnnw i'r Comisiynydd.
4
Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol hysbysu D—
a
o'r canlyniadau os nad yw D yn cydymffurfio â gofyniad sydd wedi ei gynnwys yn yr hysbysiad yn rhinwedd yr adran hon; a
b
o'r hawl i apelio o dan adran 95.
5
Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.
6
Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D.