Search Legislation

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, Adran 79. Help about Changes to Legislation

79Gofyniad i baratoi cynllun gweithredu neu i gymryd camauLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd—

(a)yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol, a

(b)yn penderfynu ei gwneud yn ofynnol i D wneud un o'r pethau a ganlyn neu'r ddau ohonynt—

(i)paratoi cynllun gweithredu at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd;

(ii)cymryd camau at y diben o atal methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol rhag parhau neu gael ei ailadrodd.

(2)Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol ddatgan yr hyn y mae'r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol i D ei wneud.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn ei gwneud yn ofynnol i D baratoi cynllun gweithredu, rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol bennu o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid i D—

(a)llunio cynllun drafft cyntaf, a

(b)rhoi'r drafft hwnnw i'r Comisiynydd.

(4)Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol hysbysu D—

(a)o'r canlyniadau os nad yw D yn cydymffurfio â gofyniad sydd wedi ei gynnwys yn yr hysbysiad yn rhinwedd yr adran hon; a

(b)o'r hawl i apelio o dan adran 95.

(5)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.

(6)Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 79 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 79 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(c)

Back to top

Options/Help