xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff y Comisiynydd gychwyn achos cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, neu ymyrryd mewn achos o'r fath, os yw'n ymddangos i'r Comisiynydd fod yr achos yn un sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.
(2)O ran is-adran (1)—
(a)nid yw'n creu sail i achos, a
(b)mae yn ddarostyngedig i unrhyw derfyn neu gyfyngiad a osodir yn rhinwedd deddfiad neu yn unol ag ymarferiad llys.
(3)Yn yr adran hon, mae'r ymadrodd “achos cyfreithiol” yn cynnwys achosion gerbron unrhyw lys neu dribiwnlys, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 8 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 8 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(f)