RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 1YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC
Rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio
I182Ei gwneud yn ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio
1
Mae'r adran hon yn gymwys os bydd y Comisiynydd—
a
yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol, a
b
yn penderfynu gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu'r naill a'r llall o'r canlynol—
i
rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol;
ii
ei gwneud yn ofynnol i D roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol.
2
Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol ddatgan yr hyn y mae'r Comisiynydd—
a
i'w wneud er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D;
b
yn ei gwneud yn ofynnol i D ei wneud er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'r methiant.
3
Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol roi gwybod i D—
a
beth fydd y canlyniadau os na fydd D yn cydymffurfio â gofyniad sydd wedi ei gynnwys yn yr hysbysiad yn rhinwedd yr adran hon; a
b
am yr hawl i apelio o dan adran 95.
4
Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.
5
Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad penderfynu y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D.