I11Dyletswydd i roi sylw dyledus i'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn
1
Oddi ar ddechrau Mai 2014, rhaid i Weinidogion Cymru, wrth arfer unrhyw un neu ragor o'u swyddogaethau, roi sylw dyledus i ofynion—
a
Rhan I o'r Confensiwn,
b
erthyglau 1 i 7 o'r Protocol Dewisol i'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn ar dynnu plant i mewn i wrthdaro arfog, ac eithrio erthygl 6(2), ac
c
erthyglau 1 i 10 o'r Protocol Dewisol i'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn ar werthu plant, puteindra plant a phornograffi plant.
2
Oddi ar ddechrau Mai 2012 hyd at ddiwedd Ebrill 2014, rhaid i Weinidogion Cymru, wrth wneud unrhyw benderfyniad sydd yn dod o fewn is-adran (3), roi sylw dyledus i ofynion Rhan I o'r Confensiwn a'r Protocolau.
3
Mae penderfyniad yn dod o dan yr is-adran hon os yw'r penderfyniad yn ymwneud ag unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
a
darpariaeth y bwriedir ei chynnwys mewn deddfiad;
b
fformiwleiddio polisi newydd;
c
adolygiad o bolisi sydd eisoes mewn bod neu newid i bolisi sydd eisoes mewn bod.
4
Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at ddyletswydd Gweinidogion Cymru o dan yr adran hon yn cyfeirio—
a
oddi ar ddechrau Mai 2012 hyd at ddiwedd Ebrill 2014, at y ddyletswydd yn is adran (2); a
b
oddi ar ddechrau Mai 2014, at y ddyletswydd yn is-adran (1).
5
Mae'r adran hon yn gymwys i'r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru fel ei gilydd (ac mae unrhyw gyfeiriad yn y Mesur hwn at y ddyletswydd o dan yr adran hon i'w ddarllen yn unol â hynny).
I22Cynllun y plant
1
Rhaid i Weinidogion Cymru wneud cynllun (“cynllun y plant”) sy'n gosod y trefniadau y maent wedi eu gwneud, neu y maent yn bwriadu eu gwneud, at ddiben sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd o dan adran 1.
2
Caiff y cynllun—
a
ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau ar weithrediad y cynllun neu ar unrhyw fater arall a grybwyllir ynddo (yn ychwanegol at yr adroddiadau sy'n ofynnol o dan adran 4(1)), a
b
pennu materion y mae'n rhaid eu cynnwys yn yr adroddiadau hynny neu mewn adroddiadau o dan adran 4(1).
3
Caiff y cynllun gynnwys unrhyw faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn pen chwe mis ar ôl i'r Pwyllgor wneud unrhyw awgrym neu argymhelliad cyffredinol o dan erthygl 45(d) seiliedig ar adroddiad gan y DU, ystyried p'un ai i adolygu neu ail-wneud y cynllun yng ngoleuni'r awgrym hwnnw neu'r argymhelliad hwnnw.
5
Caiff Gweinidogion Cymru adolygu neu ail-wneud y cynllun ar unrhyw adeg.
6
Yn yr adran hon—
a
ystyr “y Pwyllgor” yw'r Pwyllgor ar Hawliau'r Plentyn a sefydlwyd o dan erthygl 43(1);
b
ystyr “adroddiad gan y DU” yw adroddiad a gyflwynir gan y Deyrnas Unedig o dan erthygl 44(1)(b); ac
c
mae unrhyw gyfeiriad at erthygl yn gyfeiriad at yr erthygl honno o'r Confensiwn.
I33Llunio a chyhoeddi'r cynllun
1
Wrth lunio, ail-wneud neu adolygu cynllun y plant, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—
a
unrhyw adroddiad gan y Pwyllgor o dan erthygl 44(5) neu astudiaeth a wneir o dan erthygl 45(c);
b
unrhyw adroddiadau, awgrymiadau, argymhellion cyffredinol neu ddogfennau eraill a ddyroddir gan y Pwyllgor sy'n ymwneud â rhoi'r Confensiwn neu'r Protocolau ar waith gan y Deyrnas Unedig.
2
Wrth lunio, ail-wneud neu adolygu cynllun y plant, caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i unrhyw ddogfennau eraill (p'un a ddyroddir hwy gan y Pwyllgor ai peidio) ac i unrhyw faterion eraill sydd yn eu barn hwy yn berthnasol.
3
Cyn gwneud, ail-wneud neu adolygu cynllun y plant, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi drafft o'r—
a
cynllun, neu
b
pan fônt yn bwriadu adolygu'r cynllun, naill ai'r adolygiadau neu'r cynllun fel y'i adolygwyd.
4
Wrth lunio drafft i'w gyhoeddi o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod—
a
plant a phobl ifanc,
b
Comisiynydd Plant Cymru, ac
c
unrhyw bobl neu gyrff eraill y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol,
yn cael rhan mewn llunio'r drafft.
5
Cyn gwneud, ail-wneud neu adolygu cynllun y plant, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r bobl a ganlyn ynghylch y drafft a gyhoeddir o dan is-adran (3)—
a
plant a phobl ifanc,
b
Comisiynydd Plant Cymru, ac
c
unrhyw bobl neu gyrff eraill y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol.
6
Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud, ail-wneud nac adolygu cynllun y plant oni bai bod drafft o'r—
a
cynllun, neu
b
pan fônt yn bwriadu adolygu'r cynllun, naill ai'r adolygiadau neu'r cynllun fel y'i adolygwyd,
wedi ei osod gerbron y Cynulliad ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan y Cynulliad.
7
Rhaid i Weinidogion Cymru osod drafft o'r cynllun gerbron y Cynulliad (yn unol ag is-adran (6)(a)) ar neu cyn 31 Mawrth 2012.
8
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cynllun y plant pan fyddant yn ei wneud a phryd bynnag y byddont yn ei ail-wneud; ac, os ydynt yn adolygu'r cynllun heb ei ail-wneud, rhaid iddynt gyhoeddi naill ai'r adolygiadau neu'r cynllun fel y'i adolygwyd (fel sy'n briodol yn eu barn hwy).
9
Os yw Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi cynllun neu adolygiadau o dan is-adran (8) rhaid iddynt osod copi o'r cynllun neu'r adolygiadau gerbron y Cynulliad.
10
Yn yr adran hon—
a
ystyr “y Pwyllgor” yw'r Pwyllgor ar Hawliau'r Plentyn a sefydlwyd o dan erthygl 43(1); a
b
mae unrhyw gyfeiriad at erthygl yn gyfeiriad at yr erthygl honno o'r Confensiwn.
I44Adroddiadau
1
Rhaid i Weinidogion Cymru—
a
ar neu cyn 31 Ionawr 2013, a
b
ar neu cyn diwedd pob cyfnod dilynol o bum mlynedd, neu o unrhyw hyd arall a bennir yng nghynllun y plant,
gyhoeddi adroddiad ar sut y maent hwy a'r Prif Weinidog wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd o dan adran 1.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw adroddiadau eraill sy'n ofynnol yn unol ag adran 2(2)(a).
3
Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron y Cynulliad gopi o bob adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (1) neu (2).
I55Dyletswydd i hybu gwybodaeth o'r Confensiwn
Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau priodol i hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r Confensiwn a'r Protocolau ymhlith y cyhoedd (gan gynnwys plant).
I66Pŵer i ddiwygio deddfwriaeth etc
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw adroddiad a gyhoeddir o dan 4(1) neu (2) yn dod i'r casgliad y byddai'n ddymunol, at ddibenion rhoi effaith bellach neu effaith well i'r hawliau a'r rhwymedigaethau a nodir yn Rhan I o'r Confensiwn a'r Protocolau, i ddiwygio deddfiad neu offeryn uchelfreiniol.
2
Caiff Gweinidogion Cymru wneud drwy orchymyn unrhyw ddiwygiadau i'r deddfiad hwnnw neu i'r offeryn hwnnw sydd yn eu barn hwy yn briodol yn sgil yr adroddiad.
3
Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan is-adran (2) os nad yw'r ddarpariaeth a wneir gan y gorchymyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ar y pryd.
4
Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (2) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r bobl hynny neu â'r cyrff hynny sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn briodol.
I77Cymhwyso i bobl ifanc
1
Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried p'un a gaiff ac (os felly) i ba raddau a chyda pha ddiwygiadau y caiff—
a
gofynion Rhan I o'r Confensiwn a'r Protocolau fod yn berthnasol i bobl ifanc, a
b
gofynion y Mesur hwn gael eu cymhwyso o ran pobl ifanc.
2
Rhaid i gynllun y plant (pan wneir ef yn gyntaf) gynnwys datganiad ar fwriadau Gweinidogion Cymru i ymgynghori ar y materion a grybwyllir yn is-adran (1).
3
Caiff Gweinidogion Cymru, wrth ymgynghori ar y materion a grybwyllir yn is-adran (1), ymgynghori ar unrhyw fater arall sy'n ymwneud â phobl ifanc sydd yn eu barn hwy yn briodol.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar eu casgliadau o dan is-adran (1).
5
Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron y Cynulliad gopi o unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (4).
6
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn —
a
gymhwyso unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn o ran pobl ifanc;
b
wneud unrhyw ddarpariaeth arall sydd yn eu barn hwy yn briodol er mwyn rhoi effaith, o ran pobl ifanc, i unrhyw un neu ragor o'r gofynion yn Rhan I o'r Confensiwn a'r Protocolau.
7
Caiff gorchymyn o dan is-adran (6)(a) wneud unrhyw addasiadau o'r darpariaethau a gymhwysir ganddo sydd yn briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
8
Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (6) rhaid i Weinidogion Cymru—
a
gyhoeddi drafft o'r gorchymyn, a
b
ymgynghori ar y drafft â'r bobl neu'r cyrff sydd yn eu barn hwy yn briodol.
I88Y Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn
1
Yn y Mesur hwn—
a
ystyr “y Confensiwn” yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i'w lofnodi, ei gadarnhau a'i gytuno gan benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 44/25 20 Tachwedd 1989, a
b
ystyr “y Protocolau” yw'r Protocolau Dewisol a grybwyllir yn adran 1(1)(b) ac (c).
2
Yn yr Atodlen i'r Mesur hwn—
a
mae Rhan 1 yn rhoi testun Rhan I o'r Confensiwn,
b
mae Rhan 2 yn rhoi testun erthyglau'r Protocolau y cyfeirir atynt yn adran 1(1)(b) ac (c), a
c
mae Rhan 3 yn rhoi testun y datganiadau gan y Deyrnas Unedig i'r Confensiwn a'r Protocolau.
3
At ddibenion y Mesur hwn, mae'r Confensiwn a'r Protocolau i'w trin fel petai iddynt effaith—
a
fel y'u rhoddir am y tro yn Rhannau 1 a 2 o'r Atodlen, ond
b
yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad fel y'u rhoddir am y tro yn Rhan 3 o'r Atodlen.
4
Mae is-adran (5) yn gymwys os yw'r Deyrnas Unedig wedi llofnodi neu wedi mynegi fel arall ei chytundeb i—
a
diwygiad i'r Confensiwn neu i brotocol a roddir am y tro yn yr Atodlen, neu
b
protocol ychwanegol i'r Confensiwn.
Ond nid yw'r is-adran honno yn gymwys os yw is-adran (7) yn gymwys o ran y diwygiad neu'r protocol.
5
Caiff Gweinidogion Cymru wneud drwy orchymyn ddiwygiadau i adran 1(1), 8(1), 8(2) neu 8(3) o'r Mesur hwn neu i'r Atodlen i'r Mesur hwn i adlewyrchu—
a
y diwygiad neu'r protocol, a
b
unrhyw ddatganiad neu neilltuad gan y Deyrnas Unedig i'r diwygiad neu i'r protocol.
6
Mae is-adran (7) yn gymwys os yw'r Deyrnas Unedig wedi cadarnhau—
a
diwygiad i'r Confensiwn neu i brotocol a roddir am y tro yn yr Atodlen, neu
b
protocol ychwanegol i'r Confensiwn.
7
Rhaid i Weinidogion Cymru wneud drwy orchymyn ddiwygiadau i adran 1(1), 8(1), 8(2) neu 8(3) o'r Mesur hwn neu i'r Atodlen i'r Mesur hwn i adlewyrchu—
a
y diwygiad neu'r protocol, a
b
unrhyw ddatganiad neu neilltuad gan y Deyrnas Unedig i'r diwygiad neu i'r protocol.
8
Rhaid i Weinidogion Cymru wneud drwy orchymyn ddiwygiadau i Ran 3 o'r Atodlen i adlewyrchu unrhyw weithred o ddiwygio neu dynnu yn ôl o unrhyw ddatganiad neu neilltuad a roddir am y tro yn y Rhan honno.
I99Darpariaethau dehongli eraill
Yn y Mesur hwn
ystyr “y Cynulliad” (the Assembly) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “deddfiad” (enactment) yw—
- i
Deddf Seneddol,
- ii
Mesur neu Ddeddf Cynulliad,
- iii
is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr adran 21(1) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30), neu
- iv
is-ddeddfwriaeth a wneir o dan unrhyw un o Fesurau neu Ddeddfau'r Cynulliad;
- i
ystyr “plentyn” (child) yw person nad yw wedi cyrraedd 18 oed;
ystyr “pobl ifanc” (young person) yw pobl sydd wedi cyrraedd 18 oed ond nid 25 oed.
I1010Gorchmynion
1
Mae unrhyw orchymyn o dan y Mesur hwn i'w wneud drwy offeryn statudol.
2
Rhaid i offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 6 neu 7 beidio â chael ei wneud oni bai bod drafft o'r offeryn wedi cael ei osod gerbron y Cynulliad a'i gymeradwyo drwy benderfyniad gan y Cynulliad.
3
Ni chaniateir i unrhyw drafodion gael eu cynnal yn y Cynulliad er mwyn cymeradwyo drafft offeryn sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 6 neu 7 cyn diwedd y cyfnod o 40 niwrnod fel y'i diffinnir yn is-adran (6).
4
Rhaid i ddrafft o offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 8 gael ei osod gerbron y Cynulliad cyn i'r offeryn gael ei wneud a rhaid peidio â gwneud yr offeryn cyn diwedd y cyfnod o 40 niwrnod fel y'i diffinnir yn is-adran (6).
5
Nid yw adran 6(1) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys i ddrafft o offeryn sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 8.
6
At ddibenion is-adrannau (3) a (4), mae'r cyfnod o 40 niwrnod yn dechrau ar y diwrnod pryd y gosodir yr offeryn drafft gerbron y Cynulliad, heb gymryd i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.
I1111Cychwyn
Daw'r Mesur hwn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau ar y diwrnod pan gymeradwyir ef gan Ei Mawrhydi yn ei Chyngor.
I1212Enw byr
Enw'r Mesur hwn yw Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.