Cyflwyniad

1.Mae'r nodiadau esboniadol hyn yn ymwneud â Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 18 Ionawr 2011 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 16 Mawrth 2011. Mae'r nodiadau wedi eu paratoi gan Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cynorthwyo'r darllenydd i ddeall y Mesur. Nid ydynt yn rhan o'r Mesur nac wedi eu hategu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2.Dylid darllen y nodiadau ar y cyd â'r Mesur. Nid ydynt, ac ni fwriedir iddynt fod, yn ddisgrifiad cynhwysfawr o'r Mesur. Felly, pan fo’n ymddangos nad oes angen unrhyw esboniad neu sylw ar adran neu ran o adran, nis rhoddir.

3.Mae'r Mesur yn rhoi effaith bellach mewn cyfraith ddomestig i ddarpariaethau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r Protocolau Dewisol iddo.

4.Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (“y Confensiwn”) yn gonfensiwn rhyngwladol sy'n nodi hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol plant. Cymeradwywyd testun y Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn gan Aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig ar 20 Tachwedd 1989.

5.Ar 16 Rhagfyr 1991, cadarnhaodd Llywodraeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon y Confensiwn a daeth i rym yn y Deyrnas Unedig ar 15 Ionawr 1992.

6.Mae'r Deyrnas Unedig wedi cadarnhau hefyd ddau Brotocol Dewisol i'r Confensiwn. Mae'r cyntaf o'r rhain yn ymwneud â chynnwys plant mewn gwrthdrawiadau arfog, ac mae'r ail yn ymwneud â gwerthu plant, puteindra plant a phornograffi plant.

7.Mae'n ofynnol o dan erthygl 44(1)(b) o'r Confensiwn i wledydd sydd wedi ei gadarnhau gyflwyno bob 5 mlynedd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (“y Pwyllgor”) adroddiad sy'n rhoi manylion y cynnydd a wnaed ganddynt tuag at weithredu'n llawn y Confensiwn a'i Brotocolau Dewisol a chaniateir i'r gwledydd hyn ymddangos gerbron y Pwyllgor. Mae'r Pwyllgor wedi ei sefydlu o dan erthygl 43(1) o'r Confensiwn at ddiben archwilio'r cynnydd sydd wedi ei wneud gan Bartïon Gwladwriaethau tuag at ei weithredu. Mae'r Pwyllgor wedi ei ffurfio o ddeg arbenigwr yn y meysydd a gwmpesir gan y Confensiwn, a'r rheini'n arbenigwyr sydd wedi eu hethol i'r Pwyllgor gan y Gwladwriaethau sy'n bartïon i'r Confensiwn.

8.Yn Ionawr 2004, mabwysiadodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a gyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, y Confensiwn fel sail i ategu ei bolisïau ynghylch plant a phobl ifanc 0 i 25 oed (h.y. gan gynnwys y rhai sy’n 25 oed) a thrwy hynny atgyfnerthodd y “Saith Nod Craidd” yr oedd wedi eu llunio yn 2002 ar gyfer plant a phobl ifanc ar sail y Confensiwn. Trosglwyddwyd y rhan fwyaf o swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae Gweinidogion Cymru yn rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru.

9.Wrth lunio ei pholisïau ynghylch plant a phobl ifanc yng Nghymru mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyfeirio at ddau grŵp oedran. Cyfeirir at blant sydd o dan 11 oed fel “plant”, a chyfeirir at bobl sy'n 11 i 25 mlwydd oed fel “pobl ifanc”. Yn y Mesur hwn cyfeirir at bobl sydd o dan 18 oed fel “plant”, a chyfeirir at y rhai sy'n 18 i 24 mlwydd oed (h.y. gan gynnwys y rhai sy’n 24 oed) fel “pobl ifanc”. Mabwysiadwyd y dull gweithredu hwn er mwyn bod yn gyson â’r Confensiwn ac â Mater 15.6 yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, y deilliodd y cymhwyster deddfwriaethol ar gyfer y Mesur hwn ohono.

Sylwebaeth Ar Adrannau

Adran 1 - Dyletswydd i roi sylw dyledus i'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn

10.Mae’r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i ofynion –

(a)

Rhan 1 o'r Confensiwn,

(b)

erthyglau 1 i 7, ac eithrio erthygl 6(2), o'r Protocol Dewisol  i'r Confensiwn ar gynnwys plant mewn gwrthdrawiadau arfog, ac

(c)

erthyglau 1 i 10 o'r Protocol Dewisol i'r Confensiwn ar werthu plant, puteindra plant a phornograffi plant.

11.Yn y nodiadau hyn, cyfeirir at y ddyletswydd hon fel “y ddyletswydd sylw dyledus”, a chyfeirir at (a), (b) ac (c) uchod fel “Rhan I o’r Confensiwn a’i Brotocolau”.

12.Bydd y ddyletswydd sylw dyledus yn gymwys o 1 Mai 2012 ymlaen. O 1 Mai 2012 hyd at a chan gynnwys 30 Ebrill 2014, dim ond i benderfyniadau Gweinidogion Cymru sy’n dod o fewn categorïau penodol y bydd y ddyletswydd sylw dyledus yn gymwys. Rhestrir y categorïau yn is-adran (3). Yna, o 1 Mai 2014 ymlaen, bydd y ddyletswydd sylw dyledus yn gymwys bob tro y bydd Gweinidogion Cymru’n arfer eu swyddogaethau.

13.Mae’r ddyletswydd sylw dyledus yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi'r pwys priodol yn holl amgylchiadau'r achos i Ran 1 o’r Confensiwn a’r Protocolau, gan eu cydbwyso â'r holl ffactorau eraill sy'n berthnasol i'r penderfyniad sydd o dan sylw.

14.Dylid cyfeirio at adran 8 o'r Mesur a’r Atodlen i'r Mesur er mwyn canfod pa ddarpariaethau yn Rhan I o’r Confensiwn a'i Brotocolau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus iddynt.

15.Is-adran (1) – Effaith hon yw bod Gweinidogion Cymru, o 1 Mai 2014 ymlaen, yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd sylw dyledus wrth arfer unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau.

16.Is-adran (2) – Effaith hon yw bod Gweinidogion Cymru, o 1 Mai 2012 hyd at a chan gynnwys 30 Ebrill 2014, yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd sylw dyledus wrth wneud unrhyw benderfyniad sy’n dod o fewn y categorïau o benderfyniadau a restrir yn is-adran (3).

17.Is-adran (3) – Mae hon yn rhestru’r categorïau o benderfyniadau y mae’r ddyletswydd sylw dyledus yn gymwys iddynt o 1 Mai 2012 hyd at a chan gynnwys 30 Ebrill 2014. Mae’r ddyletswydd sylw dyledus yn gymwys felly i unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru ynghylch –

(a)

darpariaeth y bwriedir ei chynnwys mewn deddfiad;

(b)

ffurfio polisi newydd;

(c)

adolygu neu newid polisi presennol.

18.Mae paragraff (a) yn cwmpasu nid yn unig ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei chynnwys mewn deddfiad ond hefyd ddarpariaeth y mae rhywun arall yn bwriadu ei chynnwys mewn deddfiad. Caiff “deddfiad” ei ddiffinio yn adran 9 ac mae’n cwmpasu Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig, Mesurau Cynulliad a Deddfau Cynulliad ac is-ddeddfwriaeth a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r rhain. Felly, petai Gweinidogion Cymru yn penderfynu, er enghraifft, ar ba farn i’w mynegi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch darpariaeth yr oedd y llywodraeth honno yn bwriadu ei chynnwys mewn Mesur yn Senedd y Deyrnas Unedig, byddai’n ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant wrth benderfynu beth oedd eu barn.

19.Yn yr un modd, mae paragraffau (b) ac (c) yn cwmpasu nid yn unig bolisïau Gweinidogion Cymru, ond hefyd bolisïau perthynol i eraill. Felly, petai Gweinidogion Cymru yn yn penderfynu, er enghraifft, ar ba farn i’w mynegi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch polisi newydd arfaethedig y llywodraeth honno, byddai’n ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant wrth benderfynu beth oedd eu barn.

20.Is-adran (4) – Effaith hon yw bod cyfeiriadau yn y Mesur at ddyletswydd Gweinidogion Cymru o dan adran 1 yn golygu –

21.Is-adran (5) – Mae hon yn peri bod Prif Weinidog Cymru pan fo’n gweithredu yn y swyddogaeth honno’n unig yn ddarostyngedig i’r un ddyletswydd sylw dyledus â Gweinidogion Cymru.

22.O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae Prif Weinidog Cymru yn cyfrif fel un o Weinidogion Cymru a chaiff gyflawni unrhyw swyddogaeth sydd wedi ei rhoi i Weinidogion Cymru. Pan fo Prif Weinidog Cymru yn gweithredu fel un o Weinidogion Cymru mae’n ddarostyngedig i ddyletswydd sylw dyledus Gweinidogion Cymru. Fodd bynnag, mae rhai swyddogaethau sydd wedi eu rhoi i Brif Weinidog Cymru yn unig. Effaith is-adran (5) yw bod Prif Weinidog Cymru pan fo’n gweithredu yn y swyddogaeth honno’n unig yn ddarostyngedig i’r un ddyletswydd sylw dyledus â Gweinidogion Cymru.

23.Er enghraifft felly, petai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ym Mehefin 2012 yn cydymffurfio â rhwymedigaeth statudol i ymgynghori â Phrif Weinidog Cymru ynghylch darn o is-ddeddfwriaeth y mae’r llywodraeth honno yn bwriadu ei wneud, byddai penderfyniad Prif Weinidog Cymru ar sut i ymateb yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd sylw dyledus. Mae hyn oherwydd y byddai Prif Weinidog Cymru yn ddarostyngedig i’r un ddyletswydd sylw dyledus â Gweinidogion Cymru, fel y’i gosodir yn is-adran (2), i roi sylw dyledus i Ran 1 o’r Confensiwn a’r Protocolau wrth wneud penderfyniadau ynghylch darpariaethau y bwriedir eu cynnwys mewn deddfiad.

24.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i gyfeiriadau yn y Mesur at y ddyletswydd sylw dyledus gael eu dehongli mewn modd sy’n adlewyrchu’r ffaith bod Prif Weinidog Cymru yn ddarostyngedig i’r un ddyletswydd sylw dyledus â Gweinidogion Cymru.

Adran 2 –Cynllun y plant

25.Is-adran (1) – Mae hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud cynllun plant. Rhaid i’r cynllun osod y trefniadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, neu y bwriadant eu gwneud, er mwyn sicrhau eu bod hwy a Phrif Weinidog Cymru yn cydymffurfio â’r ddyletswydd sylw dyledus.

26.Is-adran (2) – Mae hon yn gwneud darpariaeth ynghylch materion eraill y caniateir eu cynnwys yng nghynllun y plant. Caiff y cynllun ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau ar weithrediad y cynllun neu unrhyw fater arall a grybwyllir ynddo. Yn ychwanegol, caiff y cynllun bennu materion y mae'n rhaid eu cynnwys yn yr adroddiadau hynny neu mewn adroddiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru eu cyhoeddi o dan adran 4(1) i esbonio sut y maent hwy a Phrif Weinidog Cymru wedi cydymffurfio â'r brif ddyletswydd.

27.Is-adran (3) – Mae hon yn caniatáu i'r cynllun gynnwys unrhyw faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol.

28.Is-adran (4) – Mae hon yn gwneud darpariaeth ynghylch adolygu neu ail-wneud cynllun y plant. Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried a ddylid adolygu neu ail-wneud y cynllun cyn pen chwe mis ar ôl i'r Pwyllgor wneud unrhyw awgrym neu argymhelliad cyffredinol o dan erthygl 45(d) o'r Confensiwn, ar sail adroddiad a gyflwynir i'r Pwyllgor gan y Deyrnas Unedig o dan ei rhwymedigaeth yn erthygl 44(1)(b).

29.Is-adran (5) – Mae hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru adolygu neu ail-wneud cynllun y plant unrhyw bryd arall.

30.Is-adran (6) – Mae hon yn diffinio'r termau a ddefnyddir yn adran 2.

Adran 3 - Llunio a chyhoeddi'r cynllun

31.Is-adran (1) – Mae hon yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru, wrth iddynt lunio, ail-wneud neu adolygu cynllun y plant roi sylw i'r dogfennau canlynol –

(i)

adroddiadau'r Pwyllgor ar ei weithgareddau, y mae erthygl 44(5) o'r Confensiwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Pwyllgor eu cyflwyno bob dwy flynedd i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig;

(ii)

unrhyw astudiaethau am faterion penodol sy'n ymwneud â hawliau'r plentyn yr ymgymerwyd â hwy gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig o dan erthygl 45(c) o'r Confensiwn, a

(iii)

unrhyw ddogfennau eraill a ddyroddir gan y Pwyllgor sy'n ymwneud â rhoi'r Confensiwn neu'r Protocolau ar waith gan y Deyrnas Unedig, megis dogfennau sy'n ymwneud â'r Diwrnodau Trafod Cyffredinol.

32.Is-adran (2) – Mae hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw ddogfennau eraill (p'un a ddyroddir hwy gan y Pwyllgor ai peidio) neu faterion eraill sydd yn eu barn hwy yn berthnasol wrth baratoi, ail-wneud neu adolygu cynllun y plant.

33.Is-adran (3) – Mae hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, cyn gwneud neu ail-wneud cynllun y plant gyhoeddi'r cynllun ar ffurf ddrafft. Os ydynt yn adolygu'r cynllun rhaid iddynt gyhoeddi'r adolygiadau ar eu pennau eu hunain neu'r cynllun cyfan gan gynnwys yr adolygiadau hynny.

34.Is-adran (4) - Mae hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymwneud ag –

(a)

plant a phobl ifanc,

(b)

Comisiynydd Plant Cymru

(c)

y personau neu gyrff eraill y mae Gweinidogion Cymru o’r farn eu bod yn briodol,

pan fyddant yn paratoi’r cynllun drafft, neu’r drafft o unrhyw newidiadau i’r cynllun, sydd i’w gyhoeddi o dan is-adran (3).

35.Is-adran (5) – Mae hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, cyn gwneud, ail-wneud neu adolygu cynllun y plant, ymgynghori â phobl benodol ynghylch y drafft. Rhaid iddynt ymgynghori â phlant a phobl ifanc, Comisiynydd Plant Cymru ac unrhyw bersonau neu gyrff eraill y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol.

36.Is-adran (6) – Effaith yr is-adran hon yw bod rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud neu ail-wneud y cynllun oni bai bod drafft o'r hyn sydd i'w wneud neu i'w ail-wneud wedi ei osod gerbron y Cynulliad ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan y Cynulliad. Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag adolygu'r cynllun oni bai bod yr adolygiadau ar eu pennau eu hunain wedi eu gosod gerbron y Cynulliad a'u cymeradwyo ganddo, neu fod y cynllun cyfan, gan gynnwys yr adolygiadau, wedi ei osod ger ei fron a'i gymeradwyo ganddo.

37.Is-adran (7) – Mae hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod drafft o’r cynllun plant cyntaf gerbron y Cynulliad ar 31 Mawrth 2012 neu cyn hynny.

38.Is-adran (8) - Mae hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r cynllun plant pan gaiff ei wneud a pha bryd bynnag y caiff ei ail-wneud. Pan fônt wedi adolygu'r cynllun, caniateir iddynt gyhoeddi'r adolygiadau ar eu pennau eu hunain neu'r cynllun cyfan gan gynnwys yr adolygiadau.

39.Is-adran (9) – Mae hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod gerbron y Cynulliad y ddogfen y maent wedi ei chyhoeddi o dan is-adran (8), p'un ai'r cynllun cyfan yw honno ynteu adolygiadau i'r cynllun.

40.Is-adran (10) – Mae hon yn diffinio'r termau a ddefnyddir yn adran 3.

Adran 4 - Adroddiadau

41.Is-adran (1) – Mae hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau ynghylch sut y maent hwy a Phrif Weinidog Cymru wedi cydymffurfio â’r ddyletswydd sylw dyledus. Rhaid i'w hadroddiad cyntaf gael ei gyhoeddi ar neu cyn 31 Ionawr 2013. Ar ôl hynny, rhaid iddynt gyhoeddi adroddiad bob pum mlynedd.

42.Bydd yr adroddiadau’n ymwneud â chydymffurfio â’r ddyletswydd sylw dyledus fel y’i gosodir yn adran 1(1), neu fel y’i gosodir yn adran 1(2), neu’r ddau, yn dibynnu ar pa gyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad. Bydd yr adroddiad cyntaf, sydd i’w gyhoeddi ar 31 Ionawr 2013 neu cyn hynny, yn cwmpasu cyfnod pan y ddyletswydd sylw dyledus fel y’i gosodir yn adran 1(2) sy’n gymwys; â chydymffurfio â’r ddyletswydd sylw dyledus honno y bydd yr adroddiad felly yn ymwneud.

43.Yn ystod y pum mlynedd ddilynol, y ddyletswydd sylw dyledus fel y’i gosodir yn adran 1(2) fydd yn gymwys dros ran gyntaf y cyfnod hwnnw, tra bydd y ddyletswydd sylw dyledus fel y’i gosodir yn adran 1(1) yn gymwys dros ail ran y cyfnod hwnnw. Bydd adroddiad sy’n cwmpasu’r pum mlynedd hynny felly yn ymwneud â chydymffurfio’n unol â’r sefyllfa honno.

44.Mae amseriad yr adroddiadau hyn wedi ei fwriadu i gyd-fynd ag amseriad adroddiadau'r Deyrnas Unedig i'r Pwyllgor ar y cynnydd y mae'r Deyrnas Unedig wedi ei wneud tuag at sicrhau'r hawliau sydd wedi eu cynnwys yn narpariaethau'r Confensiwn a'i Brotocolau Dewisol. O dan Erthygl 44(1)(b) o'r Confensiwn, mae'n rhaid i'r Deyrnas Unedig gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor bob pum mlynedd. Caiff cynllun y plant bennu bod Gweinidogion Cymru i gyhoeddi eu hadroddiadau o fewn ysbeidiau hwy neu rai byrrach.

45.Is-adran (2) – Effaith hon, os yw cynllun y plant wedi ei gwneud yn ofynnol (fel y caiff ei gwneud o dan adran 2(2)(a)), i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar weithrediad y cynllun neu unrhyw fater a grybwyllir ynddo, yw bod rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r adroddiad hwnnw.

46.Is-adran (3) – Mae hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod gerbron y Cynulliad adroddiadau y byddant yn eu cyhoeddi o dan adrannau 4(1) neu 4(2).

Adran 5 – Dyletswydd i hybu gwybodaeth o'r Confensiwn

47.Mae hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau y maent yn barnu eu bod yn briodol i hybu gwybodaeth a dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd o'r Confensiwn a'r Protocolau Dewisol. Mae'r ddarpariaeth yn egluro bod y “cyhoedd” yn cynnwys plant.

48.Mae'r ddarpariaeth hon wedi ei seilio i raddau helaeth ar erthygl 42 o'r Confensiwn ac erthygl 6(2) o'r Protocol Dewisol ar gynnwys plant mewn gwrthdrawiadau arfog, y mae Gwladwriaethau wedi ymrwymo ynddynt i  wneud egwyddorion a darpariaethau'r Confensiwn a'r Protocol hwnnw yn adnabyddus i lawer o oedolion a phlant. Er hynny, mae adran 5 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hybu dealltwriaeth, yn ogystal â gwybodaeth, ymhlith y cyhoedd.

49.Dylid cyfeirio at adran 1(1), adran 8, a'r Atodlen i'r Mesur er mwyn canfod cynnwys y darpariaethau sydd yn y Confensiwn a'i Brotocolau Dewisol y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru hybu gwybodaeth a dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd amdanynt.

Adran 6 – Pŵer i ddiwygio deddfwriaeth etc

50.Is-adran (1) – Effaith hyn yw nodi o dan ba amgylchiadau y mae pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 6 i ddiwygio deddfwriaeth benodol ac offerynnau uchelfreiniol penodol yn cael ei sbarduno. Mae cyfyngiadau ar y pŵer ac maent wedi eu nodi yn adran 6.

51.Bydd gan Weinidogion Cymru y pŵer hwnnw os byddant, mewn adroddiad y maent wedi ei gyhoeddi o dan adran 4, wedi dod i'r casgliad y byddai'n ddymunol diwygio deddfwriaeth benodol neu offerynnau uchelfreiniol penodol er mwyn rhoi effaith bellach neu  effaith well i'r hawliau a'r rhwymedigaethau a nodir yn Rhan I o'r Confensiwn a'i Brotocolau Dewisol.

52.Y mathau o ddeddfwriaeth y caniateir eu diwygio drwy ddefnyddio’r pŵer hwn yw Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig, Mesurau a Deddfau’r Cynulliad ac is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan unrhyw un neu ragor o’r rheini (gweler adran 9 sy’n cynnwys y diffiniad o “deddfiad”). Mae gorchmynion, rheolau a rheoliadau yn enghreifftiau o fathau o is-ddeddfwriaeth.

53.Is-adran (2) – Mae hon yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy ddefnyddio'r pŵer hwn, wneud diwygiadau i ddeddfwriaeth neu offerynnau uchelfreiniol sydd yn eu barn hwy yn briodol yng ngoleuni adroddiad y byddant wedi ei gyhoeddi o dan adran 4. Mae Gweinidogion Cymru i wneud y diwygiadau drwy wneud gorchymyn.

54.Is-adran (3) – Effaith hon yw na fydd Gweinidogion Cymru yn gallu defnyddio'r pŵer hwn i wneud diwygiadau i ddeddfwriaeth neu offerynnau uchelfreiniol ac eithrio os yw'r diwygiadau hynny'n rhai y mae gan y Cynulliad, ar yr adeg benodol honno, bŵer deddfwriaethol i'w gwneud.

55.O 5 Mai 2011 ymlaen, mae pŵer deddfwriaethol y Cynulliad yn cael ei lywodraethu gan Ran 4 (Deddfau Cynulliad) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Dylid cyfeirio at adran 108 o’r Ddeddf honno ac Atodlen 7 iddi er mwyn gweld y Pynciau y caiff y Cynulliad basio Deddfau yn eu cylch.

56.Is-adran (4) – Mae hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â phwy bynnag sy'n briodol yn eu barn hwy cyn iddynt wneud gorchymyn drwy ddefnyddio'r pŵer hwn.

57.Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud gorchymyn yn defnyddio’r pŵer hwn onid oes drafft ohono wedi ei osod gerbron y Cynulliad a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad (gweler adran 10(2)).

Adran 7 –  Cymhwyso i bobl ifanc

58.Pwrpas y darpariaethau yn yr adran hon yw ei gwneud yn ofynnol i Ran I o'r Confensiwn a'i Brotocolau Dewisol, neu ddarpariaethau’r Mesur hwn, gael eu hystyried a chaniatáu potensial iddynt gael eu cymhwyso'n briodol mewn perthynas â phobl ifanc.

59.Is-adran (1) – Mae hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried a all gofynion Rhan I o'r Confensiwn a'i Brotocolau Dewisol fod yn berthnasol i bobl ifanc ac i ba raddau, ac a allai darpariaethau'r Mesur hwn gael eu cymhwyso i bobl ifanc ac i ba raddau.

60.Mae hyn yn cynnwys ystyried a allai Rhan  I o'r Confensiwn a'i Brotocolau Dewisol fod yn berthnasol i bobl ifanc, neu a allai'r Mesur hwn gael ei gymhwyso mewn perthynas â hwy, ar ffurf ddiwygiedig.

61.Mae'r term “pobl ifanc” wedi ei ddiffinio yn adran 9 a'i ystyr yw pobl 18 i 24 mlwydd oed (h.y., y rhai sydd o dan 25 oed).

62.Is-adran (2) – Mae hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, y tro cyntaf y byddant yn gwneud ac yn cyhoeddi cynllun y plant, gynnwys yn y cynllun hwnnw eu bwriadau i ymgynghori ar berthnasedd Rhan I o'r Confensiwn a'i Brotocolau Dewisol i bobl ifanc, a chymhwysiad posibl y Mesur iddynt.

63.Is-adran (3) – Mae hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru, ochr yn ochr â'r ymgynghori o dan is-adran (2), ymgynghori hefyd ar unrhyw fater arall sy'n ymwneud â phobl ifanc ac sydd yn eu barn hwy yn briodol.  Caiff hynny gwmpasu ymgynghori ynghylch a oes ffyrdd eraill sy’n fwy priodol i fynd i’r afael â hawliau pobl ifanc.

64.Is-adran (4) – Mae hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar eu casgliadau o dan is-adran (1) ynghylch perthnasedd Rhan I o'r Confensiwn a'i Brotocolau Dewisol i bobl ifanc, a chymhwysiad posibl y Mesur iddynt.

65.Is-adran (5) – Mae hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod gerbron y Cynulliad gopi o'r adroddiad y maent wedi ei gyhoeddi o dan is-adran (4).

66.Is-adrannau (6) a (7) – Mae'r rhain yn caniatáu i Weinidogion Cymru gymhwyso drwy wneud gorchymyn y cyfan o'r Mesur hwn, neu unrhyw ddarpariaeth sydd ynddo o ran pobl ifanc. Cânt wneud hynny ar ffurf sydd wedi ei haddasu os mai hynny sydd yn eu barn hwy yn briodol.  Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaeth arall hefyd sydd yn eu barn hwy yn briodol i gymhwyso gofynion Rhan I o'r Confensiwn a'i Brotocolau Dewisol o ran pobl ifanc.

67.Is-adran (8) – Mae hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (6), gyhoeddi'r gorchymyn ar ffurf ddrafft ac ymgynghori ynghylch y drafft hwnnw â phwy bynnag sydd yn eu barn hwy yn briodol.

68.Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud gorchymyn yn defnyddio’r pŵer hwn onid oes drafft ohono wedi ei osod gerbron y Cynulliad a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad (gweler adran 10(2)).

Adran 8 – Y Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn

69.Is-adran (1) – Mae hon yn esbonio beth yw ystyr  “y Confensiwn” ac “y Protocolau” yn y Mesur hwn.

70.ystyr “y Confensiwn” yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i'w lofnodi, ei gadarnhau a'i gytuno gan benderfyniad 44/25 Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, dyddiedig 20 Tachwedd 1989.

71.ystyr “y Protocolau” yw Erthyglau 1 i 7, gan eithrio erthygl 6(2) o'r Protocol Dewisol i'r Confensiwn ar gynnwys plant mewn gwrthdrawiadau arfog, ac Erthyglau 1 i 10 o'r Protocol Dewisol i'r Confensiwn ar werthu plant, puteindra plant a phornograffi plant.

72.Erthygl 6(2) o'r Protocol Dewisol i'r Confensiwn ar gynnwys plant mewn gwrthdrawiadau arfog yw'r ddarpariaeth y mae Gwladwriaethau wedi ymrwymo odani i wneud egwyddorion a darpariaethau'r Protocol hwnnw yn adnabyddus i oedolion a phlant. Mae adran 5 o'r Mesur yn gosod Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd sy'n debyg i'r ymrwymiad hwnnw.

73.Is-adran (2) – Mae hon yn darparu bod yr Atodlen i'r Mesur hwn (“yr Atodlen”) yn rhoi testun:

(1)

Rhan I o'r Confensiwn (nid yw'r Rhaglith, a Rhannau II a III sy'n ymwneud â materion gweithdrefnol a materion tebyg mewn perthynas â'r Cenhedloedd Unedig, wedi eu cynnwys) – mae hon yn Rhan 1 o'r Atodlen,

(2)

Y ddau Brotocol Dewisol fel a grybwyllwyd uchod yn y nodyn esboniadol hwn am adran 8 – mae'r rhain yn Rhan 2 o'r Atodlen,

(3)

Datganiadau gan y Cenhedloedd Unedig i'r Confensiwn a'i Brotocolau Dewisol – mae'r rhain yn Rhan 3 o'r Atodlen.

74.Is-adran (3)  – Effaith hon yw, pryd bynnag y mae angen cyfeirio at ofynion y Confensiwn neu'r Protocolau, at ddibenion y Mesur hwn (er enghraifft, pan fo Gweinidogion Cymru yn cydymffurfio â’r ddyletswydd sylw dyledus i gyflawni rhyw swyddogaeth benodol), yna yr hyn y mae'n rhaid cyfeirio ato yw'r testun a geir, ar yr adeg benodol honno, yn Rhannau 1 a 2 o'r Atodlen.

75.Er hynny, rhaid i'r testun hwnnw gael ei ddarllen yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiadau neu neilltuadau a roddir ar yr adeg benodol honno yn Rhan 3 o'r Atodlen. Adeg deddfu'r Mesur hwn nid oes unrhyw neilltuadau gan y Deyrnas Unedig i'r Confensiwn a'i Brotocolau Dewisol ac felly nid oes unrhyw un yn ymddangos yn Rhan 3 o'r Atodlen. Mae pwerau a rhwymedigaethau Gweinidogion Cymru i ddiwygio Rhan 3 yn ymddangos yn is-adrannau (5), (7) ac (8).

76.Is-adrannau (4) a (5) – Mae'r darpariaethau hyn yn berthnasol os yw'r Deyrnas Unedig wedi llofnodi neu wedi mynegi ei bod yn cytuno ag unrhyw un neu rai o'r canlynol, ond ei bod heb ei gadarnhau neu eu cadarnhau mewn gwirionedd:

(i)

diwygiad i'r Confensiwn a roddir ar yr adeg benodol honno yn Rhan 1 o'r Atodlen,

(ii)

diwygiad i'r Protocolau a roddir ar yr adeg benodol honno yn Rhan 2 o'r Atodlen, neu

(iii)

Protocol newydd.

77.O dan yr amgylchiadau hynny, caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio adran 1(1), 8(1), 8(2), 8(3) neu’r Atodlen i adlewyrchu:

(i)

diwygiad i'r Confensiwn neu'r Protocolau,

(ii)

y Protocol newydd, neu

(iii)

unrhyw ddatganiad neu neilltuad gan y Deyrnas Unedig i'r Confensiwn neu'r Protocolau diwygiedig, neu i'r Protocol newydd.

78.Is-adrannau (6) a (7) - Mae'r darpariaethau hyn yn berthnasol os yw'r Deyrnas Unedig wedi cadarnhau:

(i)

diwygiad i'r Confensiwn a roddir ar yr adeg benodol honno yn Rhan 1 o'r Atodlen,

(ii)

diwygiad i'r Protocolau a roddir ar yr adeg benodol honno yn Rhan 2 o'r Atodlen, neu

(iii)

Protocol newydd.

79.O dan yr amgylchiadau hynny, rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygio adran 1(1), 8(1), 8(2), 8(3) neu’r Atodlen i adlewyrchu:

(i)

y diwygiad i'r Confensiwn neu'r Protocolau,

(ii)

y Protocol newydd, neu

(iii)

unrhyw ddatganiad neu neilltuad gan y Deyrnas Unedig i'r Confensiwn diwygiedig neu'r Protocolau diwygiedig, neu i'r Protocol newydd.

80.Is-adran (8) – Effaith hon yw ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddiwygio'r testun yn Rhan 3 o'r Atodlen (datganiadau a neilltuadau gan y Deyrnas Unedig) fel bod Rhan 3 yn adlewyrchu unrhyw newidiadau i'r datganiadau a'r neilltuadau y mae'n eu cynnwys.

81.Mae’n rhaid gosod unrhyw orchymyn a wneir o dan yr adran hon gerbron y Cynulliad ar ffurf ddrafft cyn iddo gael ei wneud a rhaid i gyfnod penodol o amser fynd heibio cyn y gellir ei wneud (gweler adran 10(4), 10(5) a 10(6)).

Adran 9 – Darpariaethau dehongli eraill

82.Mae hon yn diffinio amrywiol dermau a ddefnyddir yn y Mesur.

Adran 10 – Gorchmynion

83.Is-adran (1) – Mae hon yn darparu fod rhaid gwneud unrhyw offeryn a wneir o dan y Mesur hwn drwy offeryn statudol. Mae hyn yn golygu bod yr offeryn yn ddarostyngedig i ofynion gweithdrefnol a gofynion eraill a osodir yn Neddf Offerynnau Statudol 1946.

84.Is-adran (2) - Mae hon yn darparu bod rhaid peidio â gwneud gorchymyn o dan adran 6 (y pŵer i ddiwygio deddfwriaeth) na 7 (cymhwyso i bobl ifanc) oni bai bod drafft o’r gorchymyn wedi ei osod gerbron y Cynulliad a'i gymeradwyo drwy benderfyniad gan y Cynulliad.

85.Is-adran (3) – Mae hon yn darparu bod rhaid i 40 o ddiwrnodau (wedi’u cyfrifo yn unol ag is-adran (6)) fynd heibio cyn y gall y Cynulliad bleidleisio i gymeradwyo neu i wrthod drafft o orchymyn o dan adran 6 neu 7. Pwrpas y ddarpariaeth hon yw sicrhau bod gan y Cynulliad isafswm penodol o amser i graffu ar ddrafftiau o orchmynion o dan adran 6 neu 7, cyn gorfod penderfynu a fyddant yn pleidleisio i’w cymeradwyo.

86.Is-adran (4) – Mae hon yn darparu bod rhaid gosod drafft o orchymyn o dan adran 8 (y pŵer i adlewyrchu newidiadau i’r Confensiwn etc) gerbron y Cynulliad cyn y gellir ei wneud, ac na ellir ei wneud hyd nes y bydd 40 o ddiwrnodau (wedi’u cyfrifo yn unol ag is-adran (6)) wedi mynd heibio. Pwrpas y ddarpariaeth hon yw rhoi cyfle i’r Cynulliad graffu ar Orchmynion o dan adran 8 yn eu ffurf ddrafft cyn bod Gweinidogion Cymru yn eu gwneud.

87.Is-adran (5) – Mae hon yn darparu nad yw adran 6(1) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys i ddrafft o orchymyn o dan adran 8. Heb is-adran (5), effaith adran 6(1) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 fyddai rhwystro Gweinidogion Cymru rhag gwneud gorchymyn o dan adran 8 petai’r Cynulliad yn pasio penderfyniad na ddylent wneud hynny.

88.Is-adran (6) – Mae hon yn darparu sut y mae’r cyfnod o 40 o ddiwrnodau y cyfeirir ato yn is-adrannau (3) a (4) i’w gyfrifo.

Adran 11- Cychwyn

89.Mae hon yn darparu bod y Mesur yn dod i rym pan fydd deufis wedi mynd heibio ar ôl dyddiad deddfu'r Mesur. Mae Mesur wedi ei ddeddfu pan fydd wedi ei basio gan y Cynulliad a’i gymeradwyo wedyn gan Ei Mawrhydi mewn cyfarfod o’r Cyfrin Gyngor.

Adran 12 – Enw byr

90.Mae hon yn darparu y ceir cyfeirio at y Mesur hwn fel Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Cofnod O'R Trafodion Yn Y Cynulliad

Mae'r tabl a ganlyn yn gosod y dyddiadau ar gyfer pob cymal o hynt y Mesur drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir canfod Cofnod o’r Trafodion a gwybodaeth bellach ynghylch hynt y Mesur hwn ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislation-measures-rightsofchildren.htm

CymalDyddiad
Ei gyflwyno14 Mehefin 2010
Cymal 1 - Dadl2 Tachwedd 2010
Cymal 2 - Y Pwyllgor Craffu – ystyried y diwygiadau25 Tachwedd 2010
Cymal  3 – Dadl yn y Cyfarfod Llawn – ystyried y diwygiadau18 Ionawr 2011
Cymal 4 – Cymeradwywyd gan y Cynulliad18 Ionawr 2011
Cymeradwyaeth Frenhinol yn y Cyfrin Gyngor16 Mawrth 2011