Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

This section has no associated Explanatory Notes

1LL+CYn unol ag ymrwymiad y Partïon Gwladwriaethau o dan erthygl 9, paragraff 1, rhaid i geisiadau gan blentyn neu ei rieni i ddod i mewn i diriogaeth Parti Gwladwriaeth neu ymadael â hi at ddiben ailuno gael eu trin gan Bartïon Gwladwriaethau mewn modd cadarnhaol, dyngarol a hwylus. Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau ymhellach na fyddai cyflwyno'r archiad hwnnw yn peri unrhyw ganlyniadau andwyol i'r ceiswyr nac i aelodau o'u teulu.