Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Erthygl 16LL+C

1LL+CNi chaniateir i unrhyw blentyn gael ei orfodi i ddioddef ymyrraeth fympwyol neu anghyfreithlon â'i breifatrwydd, â'i deulu, â'i gartref na'i ohebiaeth nac ymosodiadau anghyfreithlon ar ei anrhydedd a'i enw da.

2LL+CMae gan y plentyn hawl i gael ei amddiffyn gan y gyfraith yn erbyn unrhyw ymyrraeth neu ymosodiadau o'r fath.