YR ATODLENLL+CY CONFENSIWN, Y PROTOCOLAU, Y DATGANIADAU A'r NEILLTUADAU

RHAN 1LL+CRHAN I O'R CONFENSIWN

Erthygl 18LL+C

1LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau wneud eu gorau glas i sicrhau y cydnabyddir yr egwyddor bod gan y ddau riant gyfrifoldebau cyffredin dros fagwraeth a datblygiad y plentyn. Mae gan rieni neu, yn ôl y digwydd, warcheidwaid cyfreithiol, y prif gyfrifoldeb dros fagwraeth a datblygiad y plentyn. Eu consýrn sylfaenol hwy fydd lles pennaf y plentyn.

2LL+CEr mwyn gwarantu a hybu'r hawliau sydd wedi eu nodi yn y Confensiwn presennol, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau roi cymorth priodol i rieni a gwarcheidwaid cyfreithiol i gyflawni eu cyfrifoldebau magu plant a rhaid iddynt sicrhau bod sefydliadau, cyfleusterau a gwasanaethau'n cael eu datblygu i ofalu dros blant.

3LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur priodol i sicrhau bod gan blant rhieni sy'n gweithio hawl i fanteisio ar wasanaethau a chyfleusterau gofal plant y maent yn gymwys i'w cael.