YR ATODLENY CONFENSIWN, Y PROTOCOLAU, Y DATGANIADAU A'r NEILLTUADAU

I1C1RHAN 1RHAN I O'R CONFENSIWN

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. Rhn. 1 mewn grym ar 16.5.2011, gweler a. 11

Modifications etc. (not altering text)
C1

Atod. Rhn. 1 cymhwyswyd (2.11.2020 at ddibenion penodedig, 1.9.2021 at ddibenion penodedig, 1.1.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), aau. 7(2)(a), 100(3); O.S. 2020/1182, rhl. 3(2)(b); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2); O.S. 2021/1243, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2); O.S. 2021/1244, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3); O.S. 2021/1245, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(4)); O.S. 2022/891, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 4-25); O.S. 2022/892, erglau. 2, 3 (ynghyd ag erglau. 4-18); O.S. 2022/893, ergl. 4; O.S. 2022/894, ergl. 3; O.S. 2022/895, erglau. 3, 4; O.S. 2022/896, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(7), 4-22); O.S. 2022/897, ergl. 3 (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21); O.S. 2022/898, erglau. 2, 3

Erthygl 23

1

Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod y dylai plentyn sydd ag anabledd meddyliol neu gorfforol fwynhau bywyd llawn a gweddus, mewn amodau sy'n sicrhau urddas, yn hybu hunanddibyniaeth ac yn hwyluso cyfranogiad gweithredol y plentyn yn y gymuned.

2

Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl y plentyn anabl i gael gofal arbennig a rhaid iddynt hyrwyddo'r broses, yn ddarostyngedig i'r adnoddau sydd ar gael, o estyn i'r plentyn cymwys a'r rhai sy'n gyfrifol dros ofalu amdano, y cymorth y mae cais yn cael ei wneud amdano ac sy'n briodol i gyflwr y plentyn ac i amgylchiadau'r rhieni neu'r personau eraill sy'n gofalu am y plentyn a rhaid iddynt sicrhau y caiff y cymorth hwnnw ei estyn iddo.

3

Gan gydnabod anghenion arbennig plentyn anabl, rhaid i gymorth a estynnir yn unol â pharagraff 2 o'r erthygl bresennol gael ei roi yn ddi-dâl, pryd bynnag y bo'n bosibl, gan ystyried adnoddau ariannol y rhieni neu'r personau eraill sy'n gofalu am y plentyn, a rhaid iddo fod wedi ei gynllunio i sicrhau bod y plentyn anabl yn cael mynediad effeithiol at addysg, hyfforddiant, gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau adsefydlu, cyfleoedd i baratoi ar gyfer cyflogaeth a chyfleoedd hamdden, a'i fod yn eu cael, a hynny mewn modd sy'n ei gwneud hi'n hwylus i'r plentyn integreiddio i'r graddau llawnaf posibl â'r gymdeithas ac i ddatblygu fel unigolyn, gan gynnwys datblygu yn ddiwylliannol ac yn ysbrydol.

4

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau hybu, yn ysbryd cydweithrediad rhyngwladol, y broses o gyfnewid gwybodaeth briodol ym maes gofal iechyd ataliol ac ym maes triniaeth feddygol, seicolegol a gweithredol plant anabl, gan gynnwys lledaenu gwybodaeth ynghylch dulliau adsefydlu, addysg a gwasanaethau galwedigaethol a mynediad at yr wybodaeth honno, gan anelu at alluogi Partïon Gwladwriaethau i wella eu galluoedd a'u sgiliau ac ehangu eu profiad yn y meysydd hyn. Yn hyn o beth, rhaid rhoi sylw penodol i anghenion gwledydd sy'n datblygu.